<p>Gwasanaethau Gofal Llygaid</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:20, 6 Mehefin 2017

Wel, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd eisiau cael triniaeth offthalmoleg—mae hynny’n wir—ond mae yna gynllun wedi cael ei sefydlu sydd yn cael ei arwain gan glinigwyr eu hunain er mwyn trawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u gweithredu. Mae byrddau iechyd wedi dweud bod yna drefniadau mewn lle er mwyn sicrhau bod mwy o glinigau ar gael fel bod pobl yn gallu cael triniaeth, ac mae hynny yn effeithiol nawr ynglŷn â chael gwared ar y ‘backlog’ o gleifion sydd eisiau triniaeth nawr yn lle eu bod yn gorfod aros. Mae hynny’n meddwl bod yr amser aros, er enghraifft, i ‘wet AMD’ nawr o dan bythefnos, yn ôl—wrth gwrs, y canllawiau sydd wedi cael eu rhoi i’r byrddau iechyd.