Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 6 Mehefin 2017.
A gawn ni, yng ngoleuni cilio llwfr diweddar yr Arlywydd Trump oddi wrth un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu’r genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol ar y newid yn yr hinsawdd, ddod o hyd i amser ar gyfer datganiad arall gan ein Hysgrifennydd y Cabinet ar y newid yn yr hinsawdd? Y llynedd, pan ddychwelodd Ysgrifennydd y Cabinet o'r trafodaethau a'r gynhadledd yn Marrakesh, fe eglurodd hi swyddogaeth gwledydd a rhanbarthau a dinasoedd wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ni waeth beth fyddo maint y wlad honno, a phwysigrwydd hyn ar gyfer ei phobl, ond hefyd pobl dramor a phobl cenedlaethau'r dyfodol, wrth fynd i'r afael â'r risgiau enfawr yr ydym yn eu hwynebu, ond hefyd wrth elwa ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Felly, yng ngoleuni datganiad yr Arlywydd Trump, rwy'n credu ei bod yn wir yn adeg amserol i gael datganiad newydd ar hynny, a fyddai i’w groesawu. Byddai hefyd, efallai, yn rhoi cyfle i ni gael gwybod beth yw safbwyntiau pobl yn y Siambr hon ar y mater hwn, yn enwedig yng ngoleuni arweinydd UKIP yn y Siambr hon yn mynd mor bell ag ysgrifennu at yr Arlywydd Trump yn croesawu ei ddatganiad— gwahoddiad cynnes iawn i chi i Gymru gan obeithio efallai y cewch gyfle i ymweld â'ch cyd Geltiaid yma, lle y byddai’n gweld bod y cilio hwn oddi wrth newid yn yr hinsawdd yn cael ei groesawu’n fawr iawn yn wir. Rwy'n credu bod angen inni roi agoriad llygaid iddo ar y mater hwnnw.