Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 6 Mehefin 2017.
Credaf y byddai llawer yn y fan hon o’r un farn, Huw Irranca-Davies. Yng Nghymru, rydym nid yn unig yn cefnogi cytundeb Paris, ond mae gennym eisoes deddfwriaeth wedi’i sefydlu i gyflawni ar y nod hirdymor pwysig hwn. A gaf i achub ar y cyfle hwn dim ond i fyfyrio ar hynny? Mae'r manteision sydd i'w gwireddu trwy newid i economi carbon isel yn cael eu cydnabod yn fyd-eang, a pham ein bod yn gweld cefnogaeth i gytundeb Paris, nid yn unig yn rhoi’r cyd-destun ar gyfer mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd, ond hefyd yn rhoi datgarboneiddio’r economi fyd-eang yn ei gyd-destun. Drwy ein deddfwriaeth—rydym wedi rhoi ar waith Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016—mae’r sylfeini deddfwriaethol wedi’u gosod ar gyfer cyflawni o ran cytundeb Paris.
Roeddech chi’n sôn hefyd am bwysigrwydd y cynghreiriau rhanbarthol sydd wedi datblygu. Mae Cymru, ynghyd â gwladwriaethau a rhanbarthau eraill, fel y rhai sydd newydd ffurfio Cynghrair Hinsawdd yr Unol Daleithiau—Califfornia, Efrog Newydd, Washington—eisoes yn gwneud gwahaniaeth drwy weithredu ar y cyd, trwy’r memorandwm o gyd-ddealltwriaeth ar arweinyddiaeth is-genedlaethol ar hinsawdd byd-eang, sy'n cynnwys 33 o wledydd, chwe chyfandir a chyda'i gilydd yn cynrychioli mwy na $27.5 triliwn mewn cynnyrch domestig gros, sy'n cyfateb i 37 y cant o’r economi byd-eang. Wrth gwrs, roedd Cymru yn llofnodwr i’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth pwysig hwn ar adeg ei sefydlu, ac rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wir yn dymuno cyflwyno datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein safbwynt yng Nghymru, a gwneud ein safiad yn glir iawn er mwyn i eraill wneud eu sylwadau.