Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 6 Mehefin 2017.
A gaf i alw am ddatganiad unigol ar ddiogelu pysgodfeydd yng Nghymru, wedi i faterion ynghylch methu â gwarchod pysgodfeydd yng Nghymru, o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Cymru, gael eu cynnwys yn y papur pysgota cenedlaethol, 'The Angler’s Mail'? Roedd hwn yn pwysleisio dirywiad difrifol iawn mewn pysgota yng Nghymru. Roedd yn datgan yr hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i Asiantaeth yr Amgylchedd, sef Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cael ei ystyried bellach yn anaddas i’w ddiben gan grwpiau pysgota ac amgylcheddol, ac o’r 6886 adroddiad o lygredd dŵr a dderbyniodd Cyfoeth Naturiol Cymru rhwng 2013 a 2016, dim ond 60 y cant a gafodd eu hymchwilio, a dim ond 41 o erlyniadau a 10 o gosbau sifil a fu, sef cyfanswm o lai nag 1 y cant o'r achosion yr adroddwyd amdanynt. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y pysgod yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru.
Mae angen i'r rheoleiddiwr wneud safiad llawer mwy cadarn ond ... Mae'r sefydliad yn anhylaw, yn rhy fiwrocrataidd ac nid yw’n ymddangos bod ganddynt strategaeth.
Fe wnaethant ddweud eu bod yn cyfarfod â swyddogion yn y Cynulliad, sy’n golygu Llywodraeth Cymru rwy’n cymryd wrth hynny, i alw am weithredu, gan ddod i'r casgliad bod methiant cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem. O ystyried eu cyfeiriad at Lywodraeth Cymru yn benodol yn yr erthygl, a’u cyfeiriad at gyfarfod â swyddogion, a gawn ni ddatganiad i’n diweddaru ni ar hyn, nid yn unig ar y casgliad y daethpwyd iddo, ond pa gamau, os o gwbl, sydd wedi deillio o hynny?