Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 6 Mehefin 2017.
Rwy’n croesawu'r cyfle i siarad o blaid egwyddorion cyffredinol Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Llywodraeth Cymru. Mae'n dda bod Llywodraeth Cymru yn cipio’r cyfle hwn i sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol yr ydym yn ymdrin â'r mater hwn oddi mewn iddo yn addas i'w ddiben. Fel y nodwyd ym memorandwm esboniadol y Bil, mae'r fframwaith presennol yr ydym yn gweithredu ynddo, ac y bûm yn addysgu oddi tano, yn achosi cynifer o heriau i’m hetholwyr a phobl eraill ledled Cymru a phrin fu’r newidiadau iddo dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae angen chwa o awyr iach y Bil hwn i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn alw ar fy mhrofiad o addysgu mewn ysgol uwchradd, sy'n golygu fy mod yn gyfarwydd â llawer o'r heriau sy'n wynebu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn amgylcheddau ysgolion ledled Cymru. Mae hyn yn berthnasol i leoliadau prif ffrwd ac i grwpiau ar wahân, mwy arbenigol. Mae'r profiad hwn hefyd yn atgyfnerthu fy ymdeimlad o frys o ran sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn. I wneud hyn, mae'n rhaid inni ddarparu cynnig addysgol sy'n caniatáu i bob person ifanc ffynnu a chyflawni, ac rwy’n falch bod hyn wrth wraidd y Bil. Mae’n rhaid i bobl ifanc deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ond rhaid i’w rhieni, eu gwarcheidwaid, eu teulu a’u ffrindiau deimlo hynny hefyd.
Yn anffodus, rwy’n clywed yn aml gan fy etholwyr yr wyf yn cwrdd â nhw yn fy swyddfa a fy nghymorthfeydd bod hyn yn aml yn her. Yn wir, rwy’n meddwl ei bod yn ddiogel dweud mai cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yw un o'r materion sydd wedi codi amlaf yn fy ngwaith achos ers imi ddod yn AC ychydig dros flwyddyn yn ôl. Gall llawer o'r achosion hyn adael rhieni plant ifanc sydd ag anghenion eithaf cymhleth yn teimlo eu bod yn brwydro yn erbyn system nad yw’n gwbl o’u plaid. Felly, rwy’n croesawu’r egwyddor a geir yn y Bil hwn i roi anghenion y dysgwr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn gallu cael cymorth mewn lleoliad sy'n bodloni eu hanghenion unigol eu hunain, a bod systemau’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau eu bod bob amser yn gallu cael mynediad llawn at ddarpariaeth ar y lefel sy’n berthnasol i’w datganiad.
Rwy’n gwybod, o'r data cynhwysfawr a gynhwysir yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil, nad yw'r profiadau yr wyf wedi clywed amdanynt yn fy ngwaith achos yn rhai ynysig. Rwy’n gwybod y gallai pwyslais y Bil ar ddatblygu cynlluniau unedig, gan ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd, helpu i leihau'r profiadau gwrthwynebus y mae fy etholwyr wedi’u cael yn rhy aml, sef nhw yn erbyn y system. Mae materion eraill yr wyf wedi ymdrin â nhw yn ymwneud â diffyg cyfleoedd cymharol i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol pan eu bod yn gorffen addysg orfodol. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi cyfarfod â rhai rhieni gwirioneddol eithriadol sydd wedi ymladd yn galed i gael y cyfleoedd gorau posibl i'w plant. Ond dyma’n union beth yw’r pwynt; ni ddylent orfod ymdrechu a brwydro. Rwyf felly'n croesawu'r pwyslais yn y Bil ar greu system ddeddfwriaethol sengl sy'n cynnwys unigolion o enedigaeth i 25 mlwydd oed.
Ychydig fisoedd yn ôl cefais gyfarfod â Sense Cymru i drafod eu prosiect llwybr â chymorth i fod yn oedolion; efallai y bydd y Gweinidog yn gyfarwydd ag ef. Ei nod yw lleihau llawer o'r rhwystrau sy’n ymwneud â phontio, ac â’r symudiad sy’n wynebu pobl ifanc wrth iddynt gyrraedd oedolaeth. Mae llawer o arfer rhagorol y gallem ei gymryd o hyn. Mae her i sicrhau y gall yr egwyddorion yn y Bil ddod yn realiti, felly rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei weithredu wedi’i ariannu’n iawn. Un o'r agweddau mwyaf niweidiol ar y ddarpariaeth yw lle nad yw addewidion yn cael eu cadw oherwydd diffyg cyllid, neu bod yr opsiwn rhataf yn cael ei ddewis dros y gorau. Rwy’n edrych ymlaen at sicrwydd y Gweinidog na fydd hyn yn digwydd yn y fan yma.
I gloi, mae'r Bil hwn yn cynnig cyfle i ni sicrhau bod y fframwaith ar gyfer darpariaeth ADY yng Nghymru yn canolbwyntio ar y dysgwr ac yn addas i'w ddiben. Rwy'n hapus i'w gefnogi, oherwydd ni ddylai’r rhieni a’r bobl ifanc a welaf yn fy swyddfa ac yn fy nghymhorthfa orfod disgwyl dim llai.