Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 6 Mehefin 2017.
A gaf innau ddatgan diddordeb fel llywodraethwr ysgol hefyd, ar y cychwyn fel hyn? Yn amlwg, mae Plaid Cymru wedi cefnogi’r alwad am ddeddfwriaeth o’r fath ers nifer o flynyddoedd, ac felly rydym ni am gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil y prynhawn yma. Ond nid yw hynny yn dweud, wrth gwrs, nad oes angen gwella a chryfhau’r Bil mewn mannau, fel sydd yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad y pwyllgor. A lle mae yna 48 o argymhellion, mae’n amlwg bod yna dipyn bach o waith ar ôl i’w wneud i gael y Bil i lle byddem ni am ei weld e. Ac a gaf innau hefyd ategu’r diolch sydd wedi cael ei roi i’m cyd-Aelodau ar y pwyllgor, swyddogion y pwyllgor a’r cannoedd lawer o randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at y broses graffu hyd yma?
Rydw innau hefyd am rannu ychydig o’r rhwystredigaeth, tra’n cydnabod bod y Gweinidog wedi bod yn hapus iawn i eistedd i lawr a thrafod a rhannu gwahanol ddogfennau atodol gyda ni. Mae wedi bod yn rhwystredig, y modd darniog y mae nifer o’r rhain wedi dod ger ein bron ni. Mae’r Bil ei hun wrth gwrs, mi ddaeth y cod, mi ddaeth y canllawiau ar anghenion gofal iechyd wedyn ac mi ydym ni wedi cael gwahanol fersiynau o’r manylion cyllidol ac yn y blaen, ac rydw i’n teimlo nad dyma’r ffordd ddelfrydol i graffu ar Bil mewn gwirionedd.
O ran y gwelliannau, yn amlwg, o fewn ychydig funudau, mae’n amhosib gwneud cyfiawnder â phob un o’r 48 argymhelliad sydd yn yr adroddiad, ond mi fyddwn i’n ategu’r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud ynglŷn ag ehangu’r diffiniad o ‘anghenion dysgu ychwanegol’ i gynnwys anghenion meddygol. Mae’n hynod bwysig bod anghenion meddygol disgyblion mewn ysgolion yn cael eu rheoli’n effeithiol a bod canllawiau manwl a chadarn ar gael i sicrhau bod hynny’n digwydd. Rwy’n cydnabod, ac yn falch, bod y Gweinidog wedi cyhoeddi’r canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol yn ystod y broses yma, ond mae yna gwestiynau, fel rydym ni wedi clywed, yn aros ynglŷn â dal yr ystod oedran llawn a fydd o fewn y Bil anghenion dysgu ychwanegol. Rydw i’n croesawu’r ffaith, wrth gwrs, fod y Gweinidog wedi ymrwymo i edrych eto ar ddiwygio’r diffiniad yn adran 2 o’r Bil i’w gwneud hi’n glir ar wyneb y Bil yma y bydd gan rywun angen addysgol ychwanegol os bydd ganddyn nhw gyflwr meddygol sy’n golygu bod ganddyn nhw anhawster dysgu sylweddol fwy na’r rhan fwyaf o bobl o’r un oed.
Rydw i’n meddwl ei bod hi’n gamgymeriad peidio â chynnwys y rhai sy’n ymgymryd â dysgu yn seiliedig ar waith, er enghraifft prentisiaethau, o fewn y Bil yma. Mae pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn fwy tebygol o gymryd y llwybr dysgu yma yn hytrach nag, efallai, parhau ar gyrsiau mwy academaidd. Rydw i’n clywed pwynt y Gweinidog, neu mae e wedi gwneud y pwynt yn y gorffennol, ei fod e ddim o reidrwydd eisiau tynnu’r sector breifat i fewn i’r Bil. Wel, y gwir yw, maen nhw’n derbyn arian cyhoeddus gan y Llywodraeth, wrth gwrs, i ddarparu’r gwasanaethau yma. Ar ben arall y sbectrwm oed, mae meithrinfeydd sector breifat sy’n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru neu arian cyhoeddus yn cael eu cynnwys o fewn dyletswyddau’r Bil. Felly, fe fyddwn i’n awyddus i weld mwy o gysondeb yn hynny o beth.
Mae’n rhaid cytuno, wrth gwrs, gyda’r nod sydd wrth galon y Bil yma o greu cyfundrefn sydd wedi’i chanoli ar y person: system fwy tryloyw, haws i’w ymwneud â hi. Ond eto, mae’r Llywodraeth yn edrych i gadw dwy gyfundrefn gwbl ar wahân o apeliadau ar gyfer addysg ac iechyd. Rydw i’n clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â pharhau â’r drafodaeth o gwmpas hynny, ond roedd hyd yn oed tystiolaeth y byrddau iechyd, i bob golwg, yn derbyn bod yna le i un tribiwnlys ac un system apelio, cyhyd â bod yr arbenigedd perthnasol yn rhan o’r broses honno, i sicrhau bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud ar y sail glinigol gywir.
Mae yna lawer o gyfeiriadau i’w croesawu at eiriolaeth yn y Bil, ac mi fuaswn i’n awyddus i fynd ymhellach. Mae yna sôn yn yr adroddiad ynglŷn ag edrych ar y cyfnodau pontio allweddol yna pan mae’n dod i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r gwasanaethau eiriolaeth, ac nid dim ond ar adegau pan fo torri lawr yn y broses neu pan fo anghydfod.
O ran y Gymraeg, rydw i yn teimlo bod y Bil wedi’i gryfhau. Rydw i’n meddwl bod yna le i fynd ymhellach. Mae yna sôn y byddai hi’n ddymunol darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn rhai llefydd yn y Bil. Wel, fe ddylem ni o leiaf ddweud bod yna ddisgwyl iddo fe gael ei ddarparu lle mae e ar gael. Ond, ar bwynt ehangach, ers degawdau rydym ni’n gwarafun nad oes y capasiti o fewn y gwasanaeth i ddarparu’r hyn y byddem ni ei eisiau drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sbectrwm o wasanaethau, ac rydw i yn teimlo—. Un awgrym rydw i wedi’i roi yw bod angen rhyw fath o gymal gwawrio, neu ‘sunrise clause’, yn y Bil. Ie, bod yn bragmataidd a dweud, ‘Lle y bo hi’n bosib, darparu’r gwasanaeth,’ ond erbyn rhyw bwynt penodol yn y dyfodol, dyweder mewn 10 mlynedd, yna mi fydd disgwyl bod y gwasanaethau yna ar gael. Rydw i’n meddwl y byddai hynny’n creu ‘impetus’ i weithredu’n bendant ar yr agenda yma unwaith ac am byth, a sicrhau bod y cynllunio gweithlu a’r hyfforddi angenrheidiol, ac yn y blaen, yn digwydd, yn lle ein bod ni yn dod nôl i fan hyn eto mewn 10, 20 mlynedd arall, gyda’r un gŵyn a’r un broblem.
Yn olaf, nid ydw i’n cytuno â’r Gweinidog ynglŷn â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Rydw i o’r un farn â gweddill aelodau’r pwyllgor a’r comisiynydd plant y dylid gosod dyletswyddau i roi sylw dyladwy i’r confensiwn ar wyneb y Bil. Mae’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn gwneud hynny. Mi fuasai peidio â gwneud hynny fan hyn yn anghyson ac yn anfon y neges anghywir am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau’r plentyn.