Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 6 Mehefin 2017.
A gaf i ychwanegu fy llais at y rhai sy'n mynegi’r gwerth amlwg iawn y mae pobl Cymru ac, yn wir, ymhell y tu hwnt i Gymru, yn ei roi ar ein hawyr agored? Mae'n amlwg fod hyn yn bwysig iawn mewn llawer ffordd i’n gwlad ac rydym yn ffodus iawn o gael y fath dirwedd ddeniadol, ac yn wir y morlun sydd gennym. Mae'n amlwg fod hyn yn bwysig iawn o ran twristiaeth, a thwristiaeth gweithgaredd yn rhan o hynny, ac o ran ansawdd bywyd yn gyffredinol, y lles a’r iechyd corfforol a meddyliol y mae pobl Cymru yn ei fwynhau, yn rhannol oherwydd gwerth ein cefn gwlad, ein hamrywiaeth o olygfeydd a phopeth y mae hynny’n ei ychwanegu at ein bywydau beunyddiol. Felly, nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom ni, nac unrhyw un o bobl Cymru, mewn unrhyw amheuaeth o ran gwerth ein hawyr agored ac, fel rhan o hynny, wrth gwrs, yn enwedig o ran y ddadl heddiw, y tirweddau dynodedig.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn moderneiddio ein hymagwedd at y materion hyn, fel yr ydym wedi clywed eisoes, oherwydd er mor bwysig yw’r tirweddau dynodedig, mae llawer sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf sy'n rhoi gwerth ar y dull datblygu cynaliadwy o ran Cymru gyfan , ac, wrth gwrs, mae llawer o rannau gwych o'n gwlad y tu allan i'r tirweddau dynodedig. Rwy'n gwybod y bydd yn rhan bwysig o waith Llywodraeth Cymru, a gwaith sefydliadau eraill yn y maes hwn, wrth symud ymlaen, i ddeall y dull gweithredu ehangach hwnnw. Ond, serch hynny, wrth gwrs, mae'r tirweddau dynodedig wedi cael, ac yn cael eu cydnabod fel rhai sy'n arbennig o werthfawr oherwydd ansawdd y dirwedd a'r morlun a'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Mae’r gwerth hwnnw yn berthnasol i ddatblygu cynaliadwy a'r holl elfennau. Felly, mae'n bwysig iawn, iawn yn amlwg ar gyfer yr economi, ar gyfer bywyd cymdeithasol yng Nghymru ac ar gyfer yr amgylchedd.
Felly, yn y cyd-destun hwnnw, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, iawn i ni gymryd sylw o'r pryderon yr ydym eisoes wedi’u clywed yn cael eu crybwyll yma heddiw, ac mae pob un ohonom wedi derbyn llawer o gyfathrebiadau yn mynegi’r pryderon hynny. Yn amlwg, rwy’n meddwl y bu, efallai, rhywfaint o ddiffyg cyfathrebu digonol rhywle ar y ffordd i’r lefel honno o bryder ddatblygu. Felly, croesawaf yn fawr yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am ymarfer ymgynghori o'r pwynt hwn ymlaen, ac rwy’n gwybod bod llawer o'r sefydliadau wedi siarad am yr angen i hwnnw fod yn ymgynghoriad llawn iawn yn wir, ac i roi sylw gwirioneddol i’r mater hwn ynghylch egwyddor Sandford, lle ceir gwahaniaeth anghymodlon rhwng dibenion gwneud yn siŵr ein bod yn cadw harddwch naturiol y dirwedd a’r morlun a hefyd yn hyrwyddo mwynhad o'n tirweddau dynodedig, lle y ceir y gwrthdaro hwnnw, ac yna ein bod yn sicrhau bod cadw harddwch naturiol y dirwedd a’r morlun yn cael blaenoriaeth. Felly, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan bwysig o'r ymarfer wrth symud ymlaen, ac rwy'n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed yr hyn a ddywedwyd heddiw a’r safbwyntiau yr ydym i gyd wedi’u cael.
Rwyf hefyd yn meddwl, o ran Marsden fel darn o waith, Llywydd, yn amlwg roedd yn drylwyr iawn ac rwy'n credu bod y broses yn gryf, ac roedd yn glir ac yn fanwl. Felly, erbyn hyn pan fyddwn yn cael y gwaith pellach y mae grŵp Dafydd Elis-Thomas wedi’i gynhyrchu, rydym yn ei weld yn nhermau, unwaith eto, fel yr wyf yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i nodi, adeiladu ar waith Marsden ac edrych ar y darnau hynny o waith yn eu cyfanrwydd, gan fod Marsden yn amlwg yn dal i fod wedi gosod y llwyfan ar gyfer y ffordd yr ydym yn symud ymlaen, ac mae ganddo, rwy'n credu, yr eglurder a’r manylder a'r broses y tu ôl i hynny, yr wyf yn credu eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac sy’n dal i gael eu gwerthfawrogi.
Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn, Llywydd, ein bod yn rhoi’r ystyriaeth lawnaf i'r ffordd yr ydym yn symud ymlaen. Mae gennym y ddeddfwriaeth newydd, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ar sut yr ydym yn rheoli ein hadnoddau mewn modd cynaliadwy yng Nghymru; mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nhw sy’n gosod y llwyfan a nhw sy’n gosod y cyd-destun cyfredol, ond mae gennym ni hefyd y gwaith pwysig hwn gan grŵp Marsden a Dafydd i fwrw ymlaen â hynny ac ychwanegu at y cyd-destun. Ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu, wrth edrych ar y dull gweithredu tymor hir sydd mor bwysig i lesiant cenedlaethau'r dyfodol, bod diogelu ein morlun a'n tirwedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn gwbl unol â’r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac ni welaf unrhyw wrthdaro rhwng hynny o gwbl. Ac rwy’n gobeithio'n fawr bod yr hyn a welwn yn dod i'r amlwg o'r gwahanol elfennau o waith sydd wedi eu gwneud, ac a fydd yn cael eu gwneud, yn sicrhau ein bod yn mynd â’r holl gyrff sydd â diddordeb hanfodol yn y materion hyn gyda ni yn rhan annatod o'r broses honno .