Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 6 Mehefin 2017.
Mi ydw i yn ddigon ffodus i gael cynrychioli rhan o Barc Cenedlaethol Eryri—ardal nodedig o ran tirwedd, byd natur, a’i ffordd o fyw unigryw. Yn ogystal a bod yn un o lefydd prydferthaf y byd, mae Eryri hefyd yn gartref i 26,000 o bobl, llawer ohonyn nhw’n gweithio yn y parc o dydd i ddydd.
Yn y blynyddoedd diweddar, fe welwyd twf aruthrol mewn un rhan o’r economi yn yr ardal, sef twristiaeth awyr agored. Yn ôl un astudiaeth, fe gyfrannodd y sector yma dros £480 miliwn i economi Cymru. O safbwynt Eryri, mae tyfu’r sector gweithgareddau awyr agored yn un o gonglfeini strategaeth economaidd Gwynedd, wrth iddo gael ei gydnabod fel un o nifer o sectorau twf yn yr ardal ac mae’r pwyslais ar hyrwyddo cyfleon busnes i bobl ifanc lleol.
Mae o’n weithgaredd economaidd sy’n gwbl gydnaws â dau ddiben statudol parc cenedlaethol sef, fel rydym ni wedi clywed, gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardaloedd, a hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd. Wedyn, fel rydym ni wedi clywed, os oes yna wrthdaro rhwng y ddau ddiben statudol hyn, mae’n rhaid i’r awdurdod yn y parc cenedlaethol droi at egwyddor Sandford. Dyna ydy’r sefyllfa ar hyn o bryd.
Yn amlwg, mae’r egwyddor Sandford yma yn hollbwysig i lawer o bobl—yn sicr yn bwysig i lawer sydd wedi cysylltu â mi dros y dyddiau diwethaf. Ac mae yna lawer mewn penbleth am na chyfeiriwyd at yr egwyddor hon yn yr adroddiad sydd dan sylw heddiw. Mae’n gwbl briodol i adolygu pwrpas yr ardaloedd dynodedig, wrth gwrs, ac fe wnaed hynny dan arweiniad yr Athro Terry Marsden, ac yna fe gyhoeddwyd ‘Tirweddau’r Dyfodol’ ym mis Mai. Mae’n dda cael y drafodaeth, ond, wrth gwrs, y broblem ydy bod yr egwyddor Sandford ar goll o’r adroddiad presennol, sydd yn gam gwag yn fy marn i. Drwy beidio â sôn am un o egwyddorion canolog presennol y tirweddau dynodedig, mae’r adroddiad yn annigonol, ac fe lwyddwyd i godi gwrychyn nifer fawr o bartneriaid sy’n ymwneud â’r parciau cenedlaethol heb fod eisiau efallai, a’r rhain ydy’r union bartneriaid y mae angen eu cydweithrediad wrth symud ymlaen yn y drafodaeth yma. Fe lwyddwyd hefyd i greu pryder ymhlith fy etholwyr i yn Arfon yn sicr. Mae pobl yn teimlo bod yna rywbeth mawr ar fin newid, fod Eryri am newid am byth, fod natur unigryw'r parc dan fygythiad. Er mwyn tawelu’r pryderon yma, mae’n bwysig bod gwelliannau Plaid Cymru yn cael eu pasio heddiw. Mae’n rhaid cael eglurder, craffu manwl, ac ymgynghori llawn, ar ddyfodol ein parciau a’n tirweddau dynodedig.
Buaswn i’n licio diolch i’r holl etholwyr sydd wedi cysylltu â mi i wyntyllu eu pryderon. Buaswn i’n licio medru mynd yn ôl atyn nhw i ddweud fod y Cynulliad wedi derbyn gwelliannau Plaid Cymru, fod y Cynulliad yn cydnabod yr angen am drafodaeth dryloyw a llawn os oes unrhyw fwriad i newid pwrpas mannau mor eiconaidd â pharc cenedlaethol Eryri.
Yn ogystal ag arddel y ddau ddiben statudol, mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi ychwanegu trydydd diben, sef meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. Diben hollbwysig yn fy marn i. Mae Eryri yn ardal llawn diwylliant a hanes lleol, ac mae mwy na hanner ei phoblogaeth yn siarad Cymraeg.
I gloi, felly, mae angen ymgynghoriad lawn yn genedlaethol, ond hefyd mae angen ymgynghoriad efo’r boblogaeth leol a’r cyrff priodol am yr holl faterion perthnasol—yr angen i warchod a gwella, ie, yn sicr, yr egwyddor Sandford, ie, yn sicr, ond hefyd yr angen i feithrin lles economaidd ei chymunedau yn yr ardaloedd dan sylw.