Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 6 Mehefin 2017.
Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n bwriadu cynnal y bleidlais. Y bleidlais, felly, ar yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru—ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i wrthod.