7. 9. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 4:42 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:42, 6 Mehefin 2017

Dyma ni, felly, yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, rydw i’n bwriadu cynnal y bleidlais. Y bleidlais, felly, ar yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru—ar welliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae’r gwelliant wedi’i wrthod.

Gwrthodwyd y gwelliant: O blaid 24, Yn erbyn 26, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 1 i gynnig NDM6321.

Rhif adran 353 NDM6321 - Gwelliant 1

Ie: 24 ASau

Na: 26 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:43, 6 Mehefin 2017

Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, fe dderbyniwyd y gwelliant yna.

Derbyniwyd y gwelliant: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar welliant 2 i gynnig NDM6321.

Rhif adran 354 NDM6321 - Gwelliant 2

Ie: 50 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:44, 6 Mehefin 2017

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio.

Cynnig NDM6321 fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod yr adroddiad Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru wedi'i gyhoeddi.

2. Yn cytuno bod Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol:

a) fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac fel lleoedd sy'n creu budd i'r cyhoedd a budd preifat drwy wahanol wasanaethau; a

b) o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chefnogi cymunedau gwledig bywiog.

3. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, sydd ynghlwm wrth y syniad o fro, sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r modd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol.

4. Yn credu y dylai unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu Parciau Cenedlaethol fynd trwy'r Cynulliad fel deddfwriaeth sylfaenol.

4. Yn credu y dylai unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu Parciau Cenedlaethol fynd trwy'r Cynulliad fel deddfwriaeth sylfaenol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:44, 6 Mehefin 2017

Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae’r cynnig wedi’i ddiwygio wedi’i dderbyn.

Derbyniwyd cynnig NDM6321 fel y’i diwygiwyd: O blaid 50, Yn erbyn 0, Ymatal 0.

Canlyniad y bleidlais ar gynnig NDM6321 fel y’i diwygiwyd.

Rhif adran 355 NDM6321 - Dadl: Yr adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru - Cynnig fel y'i diwygiwyd

Ie: 50 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Daeth y cyfarfod i ben am 16:44.