<p>Cyllideb Llywodraeth Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 1:34, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er bod gwariant refeniw y pen llywodraeth leol 75 y cant yn uwch yng Nghymru na thros y ffin yn Lloegr, mae gan y rhai sy’n talu’r dreth gyngor yma hawl i ofyn pam fod eu gwasanaethau wedi cael eu torri, pam fod gwasanaethau pryd ar glud wedi dod i ben, pam fod un o bob pum cyfleuster cyhoeddus wedi cau, pam fod gostyngiad o 23 y cant wedi bod yn nifer yr hebryngwyr croesfannau ysgol, pam fod casgliadau biniau wedi eu cyfyngu i unwaith y mis, pam fod yr achosion o dipio anghyfreithlon wedi codi 14 y cant, a pham fod 142 o ysgolion wedi cau ers 2007. Pa gynlluniau sydd gennych ar waith, wrth symud ymlaen â’r broses o ddiwygio llywodraeth leol, i sicrhau bod proses gan ein hawdurdodau lleol ar gyfer gwario’n ofalus a chyfrifol er mwyn cynnal y gwasanaethau gwerthfawr y mae ein cymunedau yn dibynnu arnynt?