Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 7 Mehefin 2017.
Wel, Llywydd, pan fydd etholwyr yn gofyn y cwestiynau hyn i’w hunain, nid oes amheuaeth y byddant yn dod o hyd i’r ateb o wybod mai’r rheswm pam fod gwasanaethau cyhoeddus lleol o dan bwysau yw oherwydd camau parhaus Llywodraeth y DU i leihau’r swm o arian sydd ar gael i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac sydd yn anochel wedyn yn effeithio ar awdurdodau lleol hefyd. Mae’r Llywodraeth hon, yn sgil ein cyllideb a’n cytundeb gyda Phlaid Cymru fel rhan o hynny, wedi darparu’r setliad gorau i lywodraeth leol yng Nghymru ei gael ers sawl blwyddyn. Fel y dywedais sawl gwaith yn y Siambr hon—ac fe’i dywedaf eto—mae’n darparu cyfnod ar eu cyfer lle mae’n rhaid iddynt gynllunio ar gyfer penderfyniadau anos sydd o’n blaenau, ac mae’r penderfyniadau anos hynny’n deillio’n uniongyrchol o benderfyniadau a wnaed gan ei phlaid sydd mewn grym yn San Steffan.