Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 7 Mehefin 2017.
Wel, byddwn yn cytuno ag ef i’r graddau fod ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr i’w gweld i mi fel yr ymgyrch a arweiniwyd waethaf ers cyrch y frigâd ysgafn, a gobeithiwn weld canlyniadau hynny yfory. Credaf ei fod yn gwbl anghywir i geisio awgrymu cysylltiad uniongyrchol rhwng cynnydd mewn ffurfiau penodol ar drethiant a’u heffaith yma yng Nghymru. Rwy’n hyderus y byddai Llywodraeth Lafur a etholwyd ar draws y Deyrnas Unedig, a fyddai’n benderfynol o greu’r amodau ar gyfer llwyddiant economaidd, a fyddai’n benderfynol o fuddsoddi yn yr amodau a fydd yn arwain at dwf economaidd a thwf economaidd teg wedi’i rannu gan bawb, o fudd i bobl ledled Cymru.