Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 7 Mehefin 2017.
Ni allaf gredu bod yr Ysgrifennydd cyllid yn credu o ddifrif na fyddai cynnydd mor syfrdanol yn y dreth gorfforaeth yn cael unrhyw effaith ar hyder busnesau, buddsoddiad busnesau, ac yn wir, ar allu cwmnïau i dalu cyflogau, ac felly mae’n rhaid mai’r awgrym yw mai pobl gyffredin yn y pen draw sy’n teimlo gwir gost codiadau o’r fath mewn trethi busnes, drwy gyfyngiadau ar godiadau cyflog, neu’n wir, drwy ostwng cyflogau, ac yn wir, drwy ddiweithdra. Yn 2009, cyhoeddodd yr Oxford University Centre for Business Taxation astudiaeth economaidd bwysig a ddaeth i’r casgliad y byddai cynnydd o £100 yn y dreth gorfforaeth yn torri £75 oddi ar gyflogau drwy gyfuniad o gyflogau is a llai o swyddi. A yw’n credu o ddifrif fod hynny er budd pobl sy’n gweithio?