Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 7 Mehefin 2017.
Wythnos ar ôl wythnos yma yn y Cynulliad, Llywydd, clywn yr Aelod yn cynnig ei fersiwn ef o economeg cyflenwi. Mae’n gaeth i gromlin Laffer y cyfeiriodd ati’n anuniongyrchol yn y fan honno. Ni allaf gofio pa economegydd—efallai mai J.K. Galbraith a ddywedodd mai gwir rym esboniadol cromlin Laffer oedd y gallech ei disgrifio i gyngreswr mewn chwe munud, a gallech barhau i’w hailadrodd am chwe mis, ac rydym wedi ei chlywed yn cael ei hailadrodd yma ers misoedd bwy’i gilydd. [Torri ar draws.] Ie, blynyddoedd bellach, bron â bod. Rwy’n gwrthod derbyn dull economeg cyflenwi sylfaenol yr Aelod. Mae’n credu bod toriadau treth yn arwain at dwf economaidd a bod codi trethi yn arwain at ddirywiad economaidd. Nid wyf yn credu bod hynny’n cael ei gadarnhau gan y dystiolaeth empirig pan roddwyd y pethau hyn ar waith.