<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:44, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Gadewch inni ystyried y tymor byr i’r tymor canolig, felly. Yn ddiweddar, ym mis Ionawr eleni, llofnododd Llywodraeth Cymru fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth San Steffan. Ai bwriad Llywodraeth Cymru, pe bai Llywodraeth San Steffan yn newid, yw ailedrych ar y cytundeb hwnnw ac aildrafod rhai agweddau arno—er enghraifft, y risg refeniw’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n elfen ohono, y cyfyngiad ar fenthyca ar hyn o bryd a’r ffaith, wrth gwrs, fod oes yr asesiad o anghenion gyda’r fframwaith cyllidol hwnnw eisoes wedi darfod? Felly, a allem gael ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai’r fframwaith cyllidol yn cael ei aildrafod ar unwaith pe bai’r hinsawdd wleidyddol yn San Steffan yn newid?