Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 7 Mehefin 2017.
Llywydd, mae’r fframwaith cyllidol eisoes yn caniatáu iddo gael ei ailystyried. Mae mecanwaith ynddo sy’n caniatáu i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei gwneud yn ofynnol i ailystyried ei delerau. Bydd Llywodraeth newydd yn San Steffan yn newid llawer o bethau yn y berthynas rhyngom ni a’r Llywodraeth a fydd yn cael ei ffurfio yno. Os bydd Llywodraeth Lafur yn cael ei ffurfio yfory, fel y gobeithiwn, bydd y fframwaith cyllidol hwnnw’n rhan o’r berthynas newydd honno.