Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 7 Mehefin 2017.
Wel, roeddwn yn falch o glywed yr Aelod yn croesawu’r camau a nodwyd ym maniffesto’r Blaid Lafur i sicrhau y bydd buddsoddi mawr yn y math o seilwaith a fydd mor bwysig i economi’r DU ac i economi Cymru. Mae ein maniffesto’n ei gwneud yn glir y bydd cyfran uniongyrchol i Gymru yn y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth Lafur newydd, a gallaf ddweud wrtho, o ran parhad y cronfeydd cydlyniant, fod fy mhlaid wedi ymrwymo i’r egwyddor fod y buddsoddiad y mae Cymru wedi llwyddo i’w sicrhau gan yr Undeb Ewropeaidd, yn seiliedig ar ein hanghenion cymharol, yn parhau i fod ar gael i Gymru wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd.