<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:46, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

O ran y cwestiwn ehangach ynglŷn â fformiwla Barnett, a gaf fi holi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â rhywbeth rhyfedd iawn, yn fy marn i, ym maniffesto’r Blaid Lafur? Mae’n nodi’r broses o greu banc buddsoddi cenedlaethol—rwy’n cefnogi’r egwyddor honno’n llwyr—banc buddsoddi cenedlaethol gyda £250 biliwn o fuddsoddiad, gyda £10 biliwn ohono’n cael ei ddosrannu i Gymru a’r banc datblygu sy’n cael ei greu yma. Nawr, yn ôl fy nghyfrif i, mae hynny’n cyfateb i oddeutu 4 y cant o’r cyfanswm ar gyfer y banc buddsoddi cenedlaethol, hynny yw, nid yw Cymru hyd yn oed yn cael ei chyfran yn ôl y boblogaeth, heb sôn am swm canlyniadol Barnett, i bob pwrpas, o’r buddsoddiad hwnnw. Ac eto, dywedir wrthym mai dyma’r offeryn a fydd yn lleihau’r gwahaniaeth mewn ffyniant ledled y DU.

Yn olaf, hefyd, tan 2019-20 yn unig y mae’r ymrwymiad ar gyfer y cronfeydd strwythurol yn para. Nid oes ymrwymiad, mewn gwirionedd, y tu hwnt i hynny, i greu cronfa cydlyniant hirdymor fel rhan o bolisi economaidd rhanbarthol ehangach. Ar y ddau bwynt hwn, pam fod maniffesto’r Blaid Lafur mor hynod o wan mewn gwirionedd wrth nodi dulliau go iawn a all ddechrau ar y gwaith o leihau’r gwahaniaeth mewn cyfoeth a welwn ledled y DU?