Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 7 Mehefin 2017.
Wel, Llywydd, mae’r Aelod yn llygad ei le fod y cebl yn rhan annatod o’r trafodaethau a ddechreuodd fargen ddinesig Abertawe, ac roedd cysylltiad cryf rhwng arweinyddiaeth Syr Terry Matthews a’r syniad o arfordir y rhyngrwyd. Fel y gŵyr yr Aelod, mae gan y fargen ddinesig, fel y’i cytunwyd yn y pen draw, 11 o brosiectau penodol yn ganolog iddi. Mae dau o’r prosiectau hynny’n cwmpasu’r rhanbarth cyfan—sef buddsoddi mewn seilwaith a mentrau digidol i sicrhau ein bod yn datblygu sgiliau a thalentau’r bobl sy’n byw ym mhob cwr o ranbarth Bae Abertawe. Bydd y cysylltydd, a’r ffordd y bydd yn dylanwadu ar y fargen yn ei chyfanrwydd, bellach yn rhan o’r gwaith o ddatblygu cynlluniau’r prosiectau hynny, gan fod yn rhaid i’w fersiynau terfynol gael eu cymeradwyo gan Lywodraethau Cymru a’r DU, yn ogystal â’r Cabinet rhanbarthol a fydd yn rhan o’r broses o lywodraethu’r fargen.