<p>Dinas-ranbarth Bae Abertawe</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:09, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, wynebodd yr arweinwyr sy’n gyfrifol am y cais hwn ddiwydrwydd dyladwy trwyadl iawn gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac rwy’n siŵr eich bod wedi rhagweld cerrig milltir penodol yn cael eu gosod er mwyn nodi cynnydd a addawyd, yn gyntaf o ran darparu’r strwythur llywodraethu hwnnw roeddech yn sôn amdano, ac yn ail o ran y math o rawiau trosiadol yn y ddaear, os mynnwch, a dechrau gwario arian ar y prosiectau hynny. Pryd y disgwylir cyrraedd y gyntaf o’r cerrig milltir yn y ddau faes a pha fecanwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn ei disgwyliadau ei hun ar gyfer canlyniadau’r fargen?