Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 7 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer yng Nghymru, roedd 6.6 y cant o’r holl rai a anafwyd mewn damweiniau traffig ar y ffordd yn feicwyr. Gwelwyd gostyngiad bychan ers y flwyddyn flaenorol, ond serch hynny, hwn yw’r ffigur uchaf ond un a gofnodwyd ers 1984. A ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid i gynghorau, a Llywodraeth Cymru yn wir, wrth ddyrannu ei chyllideb, fod o ddifrif ynglŷn â llwybrau beicio diogel, a bod angen inni eu dynodi, nid drwy beintio llinell ar hyd y ffordd ger y palmant, ond drwy fod o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod gennym lwybrau ar gyfer beicio yn unig i gyrchfannau allweddol, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol?