Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 7 Mehefin 2017.
Llywydd, y grwpiau mwyaf agored i niwed o ran defnyddwyr ffyrdd yw cerddwyr, beicwyr a beicwyr modur, ac rydym wedi siarad cryn dipyn yma yn y Siambr am feicwyr modur a chamau y gellir eu cymryd i geisio sicrhau bod y ffyrdd yn fwy diogel ar eu cyfer. Y darlun mawr, fel y gŵyr yr Aelod, yw bod marwolaethau mewn damweiniau ar y ffyrdd yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod o 30 mlynedd. Mae’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, gan ddefnyddio’r £11.6 miliwn yn benodol ar gyfer mesurau diogelwch ar y ffyrdd, yn cynnwys camau gweithredu i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda’r gwaith y gallant ei wneud i ddiogelu beicwyr ar eu ffyrdd, ac rwy’n siŵr y byddant yn ymwybodol o’r pwyntiau a wnaeth yr Aelod y prynhawn yma.