– Senedd Cymru am 2:31 pm ar 7 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiadau 90 eiliad. Mike Hedges.
Tabernacl Treforys: mae adeilad capel Tabernacl yn adeilad arbennig iawn. Disgrifiodd George Thomas y Tabernacl fel eglwys gadeiriol yr anghydffurfwyr. Heblaw am fod yn gapel hardd, mae Tabernacl yn ganolfan grefyddol a diwylliannol yng nghwm Tawe isaf. Ond, yn anffodus, mae llai o bobl yn mynd i’r capel y dyddiau yma. Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am ddyfodol y Tabernacl. Rhaid cael digon o bobl i godi arian er mwyn derbyn grant oddi wrth Cadw.
Y capel mwyaf, y mwyaf crand a’r drutaf yng Nghymru—geiriau Anthony Jones am y Tabernacl yn ei lyfr ‘Welsh Chapels’. Ydy, mae’n gapel arbennig: capel eiconig, rhestredig gradd I. Aeth y gweinidog, Emlyn Jones, y pensaer, John Humphrey, a’r adeiladwr, William Edwards, o gwmpas Prydain i weld y capeli gorau. Mae gan flaen y Tabernacl wyth colofn anferth. Tu fewn, ceir arddangosfa o waith seiri coed mewn mahogani, gyda galeri côr hyfryd ac organ fendigedig. Yn dilyn y diwygiad ym 1904, tyfodd aelodaeth y Tabernacl i dros 1,500. Erbyn heddiw, mae llai na 100 yn mynychu’r capel. Beth fydd dyfodol y Tabernacl, tybed?
Jeremy Miles.
Nos Lun, gyda fy nghyd-Aelod, David Rees, mynychais noson wobrwyo gwirfoddolwyr Gwasanaeth Gwirfoddol Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Cefais y fraint o gyflwyno gwobrau i lawer o’r rhai y dathlwyd eu cyfraniad y noson honno, ac wrth i mi edrych o gwmpas yr ystafell nos Lun, sylweddolais fod nifer fawr o’r bobl rwyf wedi eu cyfarfod ac sydd wedi fy ysbrydoli yn fy ngwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn eistedd yno o fy mlaen. Boed yn ddysgu sgiliau digidol i eraill yng nghynhadledd gymunedol Melyncrythan neu brosiect digidol Cartrefi NPT, garddwyr Cynghrair Gymunedol Ffrindiau a Chymdogion Stryd Ethel, cadetiaid ifanc sgwadron 334, Tîm Clarewood, y bobl ifanc a arferai fod yn ddigartref sydd bellach yn cynnal menter gymdeithasol, Grŵp Amgylcheddol Bryncoch, sy’n gweithio i amddiffyn ein poblogaethau o lyffantod lleol, Canolfan Maerdy, Epilepsy Action, Age Connects, Cyfeillion Barnardo’s yng Nghastell-nedd, neu esiampl anhygoel fy etholwr Harri Evans-Mason, sydd, yn ddim ond 18 oed, wedi rhoi cymaint o’i amser ei hun a thrwy wneud hynny wedi ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un peth, nid yw’r rhain yn ddim ond rhai o’r nifer o unigolion a sefydliadau sy’n rhoi cymaint bob dydd ac yn aml yn helpu i drawsnewid bywydau pobl eraill.
Mae’n Wythnos y Gwirfoddolwyr yr wythnos hon ac felly rwy’n gobeithio y bydd pawb ohonoch yn ymuno â mi i ddiolch i bawb sy’n wirfoddolwyr mewn unrhyw fodd ledled Cymru a rhoi’r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu iddynt am wneud ein cymunedau yn llefydd gwell i fyw ynddynt.
Rhun ap Iorwerth.
Yn Eglwys Gadeiriol Bangor heddiw, mae teulu, cyfeillion ac edmygwyr yn cofio, yn diolch am, ac yn dathlu bywyd Irfon. Nid oes prin angen defnyddio’i enw llawn o. Mi ddaeth Irfon Williams i’n sylw ni i gyd drwy ei frwydr yn erbyn canser. Mi oedd hi’n frwydr bersonol iddo fo—brwydr am ei iechyd a’i fywyd ei hun. Mi oedd angen dewrder a phenderfynoldeb ar gyfer y frwydr honno, ac mi ddangosodd Irfon hynny fil gwaith drosodd. Ond mi drodd brwydr Irfon yn un dros bawb oedd yn neu oedd wedi wynebu’r un argyfwng mewn bywyd—a phob un a allai wynebu hynny rywbryd, ac mae hynny’n cynnwys pob un ohonom ni.
Yn helpu’r tenor Rhys Meirion i siafio gwallt Irfon yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala y cefais i ei gyfarfod o gyntaf ar ôl ei ddiagnosis. Codi arian oedd y nod bryd hynny, ac mi oedd codi ymwybyddiaeth yr un mor bwysig i Irfon, a chodi ymwybyddiaeth—yn ei eiriau o—o’r hawl i fyw, yr hawl i driniaeth, yr hawl i bawb gael pob cyfle posib i oroesi yn erbyn creulondeb canser.
Mi oedd yn briodol iawn bod Irfon wedi dod yn aelod allweddol o’r panel ar adolygu ceisiadau cyllido cleifion yng Nghymru, a bod hynny wedi arwain at system a fydd, rydym ni i gyd yn gobeithio, yn arwain at ragor o degwch i gleifion lle bynnag y maen nhw. Ond heddiw, wrth inni anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei wraig, Becky, a’r plant, rydym ni’n cofio Irfon, y gŵr bonheddig a oedd, ac a fydd yn parhau, yn ysbrydoliaeth i gymaint.