5. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghenion Tai o ran y Dyfodol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:48, 7 Mehefin 2017

Diolch yn fawr, dirprwy Dirprwy Lywydd, ac rwy’n symud y gwelliannau, fel rydych chi wedi nodi. Rydym ni’n cyflwyno tri gwelliant i’r cynnig yma heddiw sydd yn adlewyrchu rhai elfennau yn y drafodaeth ar dai sy’n teilyngu rhagor o sylw. Mae’r dadleuon dros brisiau tai a’r angen i helpu prynwyr tai tro cyntaf yn codi’n aml. Mae’n gyfuniad o gyflogau isel a gwaith ansicr, ansefydlog, ac, felly, yn aml, nid yw atebion perthnasol i Lundain yn berthnasol i Gymru.

Mae ein gwelliant cyntaf yn adlewyrchu y realiti bod nifer sylweddol o bobl sydd yn y sector rhentu preifat yn debygol o aros yn rhentu am flynyddoedd lawer weithiau. Felly, dylem fod yn anelu i wella safonau tai a’u gwneud yn fwy fforddiadwy i’w rhentu yn y sector yma. Mae’n glir fod ffioedd gosod gan asiantau yn gosod rhwystr i deuluoedd ar incwm isel rhag symud cartref o fewn y sector rhentu preifat. Os ydych yn wynebu talu ffi o rai cannoedd o bunnoedd i symud, rydych chi’n mynd i aros, er mor annigonol, anaddas a gwael ydy safon y llety presennol. Rydym fel plaid wedi cyflwyno gwelliannau i ddeddfwriaeth flaenorol i wahardd ffioedd asiantau gosod, ond araf iawn y mae pethau’n llusgo ymlaen, a galwn ar Lywodraeth Cymru i wahardd y ffioedd gosod yma.

Mae ein hail welliant yn ein cyfeirio at edrych ar beth sy’n digwydd i gartrefi newydd pan fyddant yn cael eu hadeiladu. Nid yw’r agwedd o adeiladu tai ymhob man i gael tai fforddiadwy yn gweithio, yn amlwg. Beth yw’r pwynt o adeiladu 20,000 o dai newydd os yw’r mwyafrif llethol yn cael eu prynu gan fuddsoddwyr prynu-i-osod? Mae’n rhaid edrych ar atebion amgen. Yn hanesyddol, mae buddsoddwyr prynu-i-osod wedi wynebu llai o rwystrau na phobl a theuluoedd ifanc sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf. Dyma un o’r rhesymau pam mae gennym ‘genhedlaeth rentu’.

Rydym ni’n croesawu rhai newidiadau diweddar yng nghyfraith treth a rhagor o reoleiddio yn y sector, ond mae angen mynd yn bellach. Geilw ein gwelliant ar i Lywodraeth Cymru archwilio ffyrdd y gellir defnyddio’r system gynllunio ymhellach i flaenoriaethu adeiladu cartrefi ar gyfer pobl sy’n prynu am y tro cyntaf a theuluoedd, ac osgoi i ddatblygiadau newydd gael eu dominyddu’n anghymesur gan berchnogaeth prynu-i-osod a pherchnogaeth ail gartref.

Felly, at ein gwelliant olaf. Rydym ni’n nodi bod angen isadeiledd lleol i gefnogi adeiladu tai newydd. Dibwynt ydy adeiladu tai sydd, ar y wyneb, yn edrych yn fforddiadwy, ond heb y drafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol a gwasanaethau cyhoeddus eraill ar gael yn lleol. Mae ein gwelliant yn gresynu bod cyni wedi golygu nad yw buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau cymunedol wedi bod yn bosib, yn aml. Yn wir, mae’r fath gyfleusterau’n crebachu ac o dan fygythiad bob man. Gall rhai cynigion ar gyfer datblygiadau tai fod yn fforddiadwy, felly, ar y wyneb, ond yn anghynaliadwy o ganlyniad i lymder a chyni economaidd, felly.

Mae yna hefyd farc cwestiwn yn ddiweddar dros ansawdd y cartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu hefyd, gydag adroddiad yn San Steffan y flwyddyn ddiwethaf yn olrhain llu o broblemau hyd yn oed efo ansawdd tai sydd newydd gael eu hadeiladu. I gloi, ni allwn ddatrys ein problemau tai drwy adeiladu ymhob man mewn hinsawdd o lymder a thoriadau tra erys yr heriau sylfaenol o gyflogau isel, ansicrwydd gwaith ac anghyfiawnderau cymdeithasol. Diolch yn fawr.