Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 7 Mehefin 2017.
Galwodd y Ceidwadwyr yr etholiad ar y sail ei fod yn etholiad cyffredinol Brexit, ac eto nid ydynt wedi dweud dim ynghylch beth fyddai’n gytundeb da i amaethyddiaeth Cymru, beth y bwriadant ei wneud, beth y bwriadant ei negodi, neu’n wir y cyfnod o amser y bwriadant gyrraedd y nod hwnnw o’i fewn. Mae diwygiadau’r Ceidwadwyr heddiw braidd yn gynamserol gan y bydd y Llywodraeth yn newid ddydd Iau, wrth gwrs. Ond hyd yn oed pe na bai’r Llywodraeth yn newid, maent eisoes wedi cael eu tanseilio gan eu Prif Weinidog eu hunain a ddaeth i ogledd Cymru ddoe a dweud na fydd unrhyw addewid o gefnogaeth bellach i amaethyddiaeth yng Nghymru y tu hwnt i 2020, er bod y gwelliannau heddiw gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn sôn am holl dymor y Senedd nesaf. Maent wedi cael eu tanseilio gan eu Prif Weinidog eu hunain, felly ni fyddwn yn cefnogi eu gwelliannau.
Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig iawn inni chwilio am gyfle i wneud amaethyddiaeth Cymru yn wirioneddol flaengar ac yn ddyfodol o ran y ffordd yr ydym yn cynhyrchu bwyd, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y Deyrnas Unedig. Diwydiant amaeth glaswelltir ac ucheldir sydd gennym yn bennaf, ac mae 80 y cant ohono’n cael ei alw’n ardal lai ffafriol. Neithiwr yn y Cynulliad, cynhaliwyd y digwyddiad Gwyddoniaeth a’r Cynulliad gennym, digwyddiad a oedd yn canolbwyntio ar ymwrthedd microbaidd a gwrthficrobaidd—sy’n bwysig iawn ar gyfer amaethyddiaeth ac iechyd pobl. Mae gennym sefydliadau yng Nghymru sydd ar flaen y gad gyda gwaith ymchwil ar hyn—ar flaen y gad yn rhyngwladol—ac yn gweithio gyda’i gilydd, er enghraifft, yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth. Mae angen i ni sicrhau nid yn unig fod y sefydliadau hyn yn cael eu cadw pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond eu bod yn cael eu gwella, eu cryfhau ymhellach, a’u grymuso ymhellach i barhau’r gwaith hwnnw, er mwyn i ni gael y lefel orau o gefnogaeth i amaethyddiaeth. Nid mwy o arian yn unig y mae hynny’n ei olygu, mae hefyd yn ymwneud â’r gwaith ymchwil a’r syniadau gorau, gan mai diben amaethyddiaeth Cymru yw cynhyrchu bwyd a diod o safon uchel, yn seiliedig ar safonau iechyd a lles anifeiliaid a safonau amgylcheddol uchel.
O ran ansawdd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gall ffermwyr Cymru gystadlu gydag unrhyw un mewn unrhyw ran arall o’r byd, ond wrth gwrs mae hynny’n golygu cost, ac mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain mai’r rheswm rydym wedi cael cefnogaeth y cyhoedd i amaethyddiaeth yng nghyd-destun yr UE dros 40 mlynedd yw er mwyn sicrhau bod y bwyd o ansawdd uchel gyda safonau lles uchel yn cyrraedd ein siopau am bris rhesymol. Gallwn gael bwyd rhad neu gallwn gael bwyd o safon uchel. Gallwn gael bwyd rhad sydd ar gael i bawb, ond mae hynny’n golygu safonau lles o ansawdd gwael iawn. Yr wythnos hon, darllenwn am gaethlafur yn cynhyrchu corn-bîff yn fforestydd glaw Brasil. Felly mae hwn yn fater pwysig iawn i’w gael yn iawn.
Dyma pam fod Plaid Cymru heddiw’n dadlau fod cefnogaeth barhaus i amaethyddiaeth yng Nghymru gan y Llywodraeth, pan fyddwn yn gadael yr UE, yn hanfodol. Dyna pam ei bod mor siomedig fod y Ceidwadwyr, mewn etholiad a alwyd ganddynt, wedi methu gwneud unrhyw addewid o’r fath. Mae hefyd yn siomedig nad yw maniffesto Llafur Cymru ychwaith yn gwneud unrhyw addewid o’r fath i barhau cymorth i ffermwyr y tu hwnt i dymor y Cynulliad hwn. Rwy’n meddwl mai dyna beth fydd yn rhaid i bobl ei gadw mewn cof pan fyddant yn pleidleisio yfory.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn glir iawn: byddwn yn cynrychioli buddiannau ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, ac yn ymladd am y cytundeb masnach gorau bob amser. Mae celwyddau’n cael eu dweud amdanaf, ac mae celwyddau’n cael eu dweud am Blaid Cymru. Yr wythnos hon, honnodd y Democratiaid Rhyddfrydol, nad ydynt yn bresennol ar hyn o bryd yn y Siambr, fod Plaid Cymru yn cytuno gyda’r Ceidwadwyr, UKIP a Llafur, y dylid cael Brexit caled. Taflen y Democratiaid Rhyddfrydol a ddywedodd hynny, taflen a achosodd gymaint o gywilydd i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru nes ei fod wedi dweud bod ganddo ‘gywilydd o’r daflen’ a thynnodd hi’n ôl ar unwaith. Felly, y diwrnod wedyn, anfonasant lythyr yn lle hynny a oedd yn ailadrodd yr honiadau, ond y tro hwn fe’i rhoesant yn enw Kirsty Williams, yr honnir ei bod yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y lle hwn.
Mae Plaid Cymru wedi cynnal nifer o drafodaethau ar Brexit a’r angen am gefnogaeth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol. Nid yw’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynnal un. Maent yn honni ein bod yn troi ein cefnau ar gymunedau gwledig, ond mae pawb yn gwybod ein bod wedi ymladd yn galed dros amaethyddiaeth Cymru yma yn y Siambr hon mewn gwirionedd. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth gwrs, yn rhan o Lywodraeth Cymru, ac yn wir, byddai pleidlais iddynt yfory yn bleidlais dros Lywodraeth dan arweiniad Corbyn ac yn ymagwedd dan arweiniad Corbyn tuag at amaethyddiaeth Cymru, ac nid wyf yn credu y bydd hynny’n addas ar gyfer y bobl yng Ngheredigion neu ffermwyr mewn mannau eraill. Mae yna un neu ddau yng Nghasnewydd y gallai fod yn addas ar eu cyfer, ond yn sicr nid yng Ngheredigion. Felly, mae dewis clir i bobl yfory: mae angen iddynt sefyll ac amddiffyn cymunedau gwledig yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i hynny, a bydd Plaid Cymru bob amser yn ymladd dros y cytundeb gorau i Gymru.