6. 6. Dadl Plaid Cymru: Y Diwydiant Amaethyddol a Gadael yr Undeb Ewropeaidd

– Senedd Cymru ar 7 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:34, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Symudaf ymlaen yn awr at eitem 6, dadl Plaid Cymru ar y diwydiant amaethyddol a Brexit, a galwaf ar Simon Thomas i gynnig y cynnig. 

Cynnig NDM6325 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod taliadau Ewropeaidd yn ffurfio 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru ac mai diben y taliadau hyn yw sicrhau bwyd i bobl am bris rhesymol, o ansawdd uchel, sy'n arddel safonau lles uchel.

2. Yn nodi â phryder y gallai cytundebau masnach anghyfrifol achosi i Gymru gael ei gorlifo â bwyd rhad wedi'i fewnforio, gan niweidio'r diwydiant amaethyddol, yr economi wledig ac iechyd y cyhoedd.

3. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni addewidion y rhai a fu'n ymgyrchu'n frwd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gwarantu bod y cyllid Ewropeaidd ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael ei roi'n ôl yn ei gyfanrwydd.

4. Yn credu, er mwyn rhoi diogelwch i ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, y dylai Llywodraeth y DU gael cymeradwyaeth pob gwlad yn y DU cyn llofnodi unrhyw gytundeb masnach.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:34, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Cadeirydd, a chynigiaf y cynnig yn enw Plaid Cymru, ac atgoffa ein hunain y byddwn yn gwneud penderfyniad arwyddocaol iawn yfory—pob un ohonom—ynglŷn â sut rydym yn mynd i drafod ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd gan ddiogelu buddiannau Cymru. Mae ffocws y ddadl y prynhawn yma ar sut y gwnawn hynny, gan edrych ar ôl amaethyddiaeth a’n heconomïau gwledig yng Nghymru. Oherwydd, o holl ddiwydiannau Cymru, amaethyddiaeth sy’n wynebu’r ansicrwydd mwyaf yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Heb y cytundeb masnach cywir, y fframwaith rheoleiddio cywir a’r cymorth cywir, bydd y canlyniadau i’n diwydiant amaethyddol a’r economi wledig yn ehangach yn drychinebus.

Nid ydym ond yn defnyddio oddeutu 5 y cant o’n cig coch yma yng Nghymru. Mae tua 93 y cant o’n cig yn cael ei allforio i’r UE, sy’n cynnwys gweddill y DU, ond mae’n bwysig fod unrhyw gytundeb masnach a drafodir gan Lywodraeth y DU yn cadw ac yn sicrhau parhad ein cyfundrefnau cig oen y glaswelltir a’r ucheldir a chig eidion a llaeth. Gallai cytundeb masnach gyda Seland Newydd, er enghraifft, arwain at drawsleoli holl gwota cig oen cyfredol Seland Newydd i’w fewnforio i’r DU ar ôl iddi adael yr UE. Gallai hynny olygu bod 0.25 miliwn tunnell o gig oen, sydd wedi’i wasgaru ar hyn o bryd ar draws yr UE yn ei gyfanrwydd, yn dod yn uniongyrchol i’r DU. Yn ôl Hybu Cig Cymru, gallai senario lle mae’r DU yn masnachu gyda’r UE o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd—y senario ‘dim cytundeb’—olygu tariffau o 84 y cant ar garcasau gwartheg, 46 y cant ar garcasau cig oen, a 61 y cant ar doriadau cig oen. Felly, byddai ‘dim cytundeb’ yn gytundeb gwael i amaethyddiaeth yng Nghymru a chymunedau gwledig Cymru.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:34, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Galwodd y Ceidwadwyr yr etholiad ar y sail ei fod yn etholiad cyffredinol Brexit, ac eto nid ydynt wedi dweud dim ynghylch beth fyddai’n gytundeb da i amaethyddiaeth Cymru, beth y bwriadant ei wneud, beth y bwriadant ei negodi, neu’n wir y cyfnod o amser y bwriadant gyrraedd y nod hwnnw o’i fewn. Mae diwygiadau’r Ceidwadwyr heddiw braidd yn gynamserol gan y bydd y Llywodraeth yn newid ddydd Iau, wrth gwrs. Ond hyd yn oed pe na bai’r Llywodraeth yn newid, maent eisoes wedi cael eu tanseilio gan eu Prif Weinidog eu hunain a ddaeth i ogledd Cymru ddoe a dweud na fydd unrhyw addewid o gefnogaeth bellach i amaethyddiaeth yng Nghymru y tu hwnt i 2020, er bod y gwelliannau heddiw gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn sôn am holl dymor y Senedd nesaf. Maent wedi cael eu tanseilio gan eu Prif Weinidog eu hunain, felly ni fyddwn yn cefnogi eu gwelliannau.

Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig iawn inni chwilio am gyfle i wneud amaethyddiaeth Cymru yn wirioneddol flaengar ac yn ddyfodol o ran y ffordd yr ydym yn cynhyrchu bwyd, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y Deyrnas Unedig. Diwydiant amaeth glaswelltir ac ucheldir sydd gennym yn bennaf, ac mae 80 y cant ohono’n cael ei alw’n ardal lai ffafriol. Neithiwr yn y Cynulliad, cynhaliwyd y digwyddiad Gwyddoniaeth a’r Cynulliad gennym, digwyddiad a oedd yn canolbwyntio ar ymwrthedd microbaidd a gwrthficrobaidd—sy’n bwysig iawn ar gyfer amaethyddiaeth ac iechyd pobl. Mae gennym sefydliadau yng Nghymru sydd ar flaen y gad gyda gwaith ymchwil ar hyn—ar flaen y gad yn rhyngwladol—ac yn gweithio gyda’i gilydd, er enghraifft, yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth. Mae angen i ni sicrhau nid yn unig fod y sefydliadau hyn yn cael eu cadw pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond eu bod yn cael eu gwella, eu cryfhau ymhellach, a’u grymuso ymhellach i barhau’r gwaith hwnnw, er mwyn i ni gael y lefel orau o gefnogaeth i amaethyddiaeth. Nid mwy o arian yn unig y mae hynny’n ei olygu, mae hefyd yn ymwneud â’r gwaith ymchwil a’r syniadau gorau, gan mai diben amaethyddiaeth Cymru yw cynhyrchu bwyd a diod o safon uchel, yn seiliedig ar safonau iechyd a lles anifeiliaid a safonau amgylcheddol uchel.

O ran ansawdd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gall ffermwyr Cymru gystadlu gydag unrhyw un mewn unrhyw ran arall o’r byd, ond wrth gwrs mae hynny’n golygu cost, ac mae’n rhaid i ni atgoffa ein hunain mai’r rheswm rydym wedi cael cefnogaeth y cyhoedd i amaethyddiaeth yng nghyd-destun yr UE dros 40 mlynedd yw er mwyn sicrhau bod y bwyd o ansawdd uchel gyda safonau lles uchel yn cyrraedd ein siopau am bris rhesymol. Gallwn gael bwyd rhad neu gallwn gael bwyd o safon uchel. Gallwn gael bwyd rhad sydd ar gael i bawb, ond mae hynny’n golygu safonau lles o ansawdd gwael iawn. Yr wythnos hon, darllenwn am gaethlafur yn cynhyrchu corn-bîff yn fforestydd glaw Brasil. Felly mae hwn yn fater pwysig iawn i’w gael yn iawn.

Dyma pam fod Plaid Cymru heddiw’n dadlau fod cefnogaeth barhaus i amaethyddiaeth yng Nghymru gan y Llywodraeth, pan fyddwn yn gadael yr UE, yn hanfodol. Dyna pam ei bod mor siomedig fod y Ceidwadwyr, mewn etholiad a alwyd ganddynt, wedi methu gwneud unrhyw addewid o’r fath. Mae hefyd yn siomedig nad yw maniffesto Llafur Cymru ychwaith yn gwneud unrhyw addewid o’r fath i barhau cymorth i ffermwyr y tu hwnt i dymor y Cynulliad hwn. Rwy’n meddwl mai dyna beth fydd yn rhaid i bobl ei gadw mewn cof pan fyddant yn pleidleisio yfory.

Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn glir iawn: byddwn yn cynrychioli buddiannau ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, ac yn ymladd am y cytundeb masnach gorau bob amser. Mae celwyddau’n cael eu dweud amdanaf, ac mae celwyddau’n cael eu dweud am Blaid Cymru. Yr wythnos hon, honnodd y Democratiaid Rhyddfrydol, nad ydynt yn bresennol ar hyn o bryd yn y Siambr, fod Plaid Cymru yn cytuno gyda’r Ceidwadwyr, UKIP a Llafur, y dylid cael Brexit caled. Taflen y Democratiaid Rhyddfrydol a ddywedodd hynny, taflen a achosodd gymaint o gywilydd i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru nes ei fod wedi dweud bod ganddo ‘gywilydd o’r daflen’ a thynnodd hi’n ôl ar unwaith. Felly, y diwrnod wedyn, anfonasant lythyr yn lle hynny a oedd yn ailadrodd yr honiadau, ond y tro hwn fe’i rhoesant yn enw Kirsty Williams, yr honnir ei bod yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y lle hwn.

Mae Plaid Cymru wedi cynnal nifer o drafodaethau ar Brexit a’r angen am gefnogaeth i ffermwyr Cymru yn y dyfodol. Nid yw’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynnal un. Maent yn honni ein bod yn troi ein cefnau ar gymunedau gwledig, ond mae pawb yn gwybod ein bod wedi ymladd yn galed dros amaethyddiaeth Cymru yma yn y Siambr hon mewn gwirionedd. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth gwrs, yn rhan o Lywodraeth Cymru, ac yn wir, byddai pleidlais iddynt yfory yn bleidlais dros Lywodraeth dan arweiniad Corbyn ac yn ymagwedd dan arweiniad Corbyn tuag at amaethyddiaeth Cymru, ac nid wyf yn credu y bydd hynny’n addas ar gyfer y bobl yng Ngheredigion neu ffermwyr mewn mannau eraill. Mae yna un neu ddau yng Nghasnewydd y gallai fod yn addas ar eu cyfer, ond yn sicr nid yng Ngheredigion. Felly, mae dewis clir i bobl yfory: mae angen iddynt sefyll ac amddiffyn cymunedau gwledig yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i hynny, a bydd Plaid Cymru bob amser yn ymladd dros y cytundeb gorau i Gymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:41, 7 Mehefin 2017

Rydw i wedi dewis dau welliant i’r cynnig, ac rydw i’n galw ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1 a 2 yn ei enw ef.

Gwelliant 1—Paul Davies

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth bresennol y DU i ddarparu yr un cyfanswm ariannol o ran cronfeydd ar gyfer cymorth i ffermydd tan ddiwedd senedd nesaf y DU.

Gwelliant 2—Paul Davies

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth bresennol y DU i weithio gyda chynhyrchwyr bwyd, arbenigwyr amgylcheddol a ffermwyr Cymru a Llywodraeth Cymru i lunio system amaeth-amgylcheddol newydd.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:41, 7 Mehefin 2017

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i. Mae penderfyniad pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd y llynedd yn sicr yn mynd i gael effaith ar y diwydiant amaeth yng Nghymru, ac, heb os nac oni bai, bydd Brexit yn cyflwyno heriau a chyfleoedd i ffermwyr Cymru. Fel rydym ni’n gwybod, dros y degawdau diwethaf, mae polisïau a deddfwriaeth amaethyddol wedi’u penderfynu, i raddau helaeth, ar lefel Ewropeaidd. Felly, mae’n hanfodol yn sgil penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd fod ffermwyr yn cael fframwaith teg a pharhaol i ddiogelu cynaliadwyedd y diwydiant. Mae’r cynnig heddiw yn nodi’n briodol fod taliadau Ewropeaidd ar hyn o bryd yn cynnwys 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru, a diben y taliadau hyn yw sicrhau bwyd lles uchel ar gyfer defnyddwyr, am bris rhesymol o ansawdd uchel. Rydw i’n falch bod Prif Weinidog presennol y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau ei chefnogaeth i barhau i ariannu cymorth i ffermwyr ar y lefel presennol tan ddiwedd Senedd nesaf y Deyrnas Unedig. Mae hynny wedi cael ei groesawu gan y diwydiant amaethyddol. Mae hynny ym maniffesto’r Blaid Geidwadol [Torri ar draws.] Yn y funud.

Wrth gwrs, rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gadarnhau y bydd y cyllid yma’n cael ei glustnodi’n gyfan gwbl ar gyfer amaethyddiaeth. Fel rydym ni’n gwybod, byddai ‘Barnetteiddio’ arian i amaethyddiaeth yn drychinebus i ffermwyr Cymru, oherwydd, heb neilltuo arian, byddai arian ar gyfer amaethyddiaeth yn cael ei orfodi i gystadlu â gwasanaethau cyhoeddus eraill. Er bod Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gyllido ar yr un lefel ar gyfer cymorthdaliadau tan ddiwedd y Senedd nesaf, mater i Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig eraill yw hi i nawr weithio gyda’i gilydd i greu fframwaith ar draws y Deyrnas Unedig sy’n gweithio i bob un o’r gwledydd datganoledig, a sicrhau cynaliadwyedd ffermio ar gyfer y tymor hir. Rydw i’n ildio i’r Aelod dros Ynys Môn.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:43, 7 Mehefin 2017

Diolch yn fawr iawn am ildio. A wnaiff yr Aelod dderbyn nad oedd yna fygythiad, wrth gwrs, i gyllid i amaethwyr yng Nghymru pe baem ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd? Mae’r bleidlais wedi digwydd, wrth gwrs, ond hefyd, a wnaiff o dderbyn, p’un ai ydy o’n dair blynedd neu’n bedair blynedd, neu beth bynnag, o addewid ynglŷn â pharhau i gyllido, nid yw hynny’n ddigon i ffermwyr sydd eisiau gwneud penderfyniadau buddsoddi hirdymor ar gyfer datblygiad eu diwydiant?

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:44, 7 Mehefin 2017

Wrth gwrs, beth mae’n rhaid i’r Aelod ei gofio hefyd yw roedd CAP ddim ond yn parhau hyd at 2020. Felly, rydym ni, fel y Llywodraeth ar lefel Brydeinig, wedi’i gwneud hi’n eithaf clir y byddwn ni’n parhau gyda’r lefel ariannu hwnnw hyd 2022. Er bod maint y dasg yn enfawr, a dweud y lleiaf, mae cyfleoedd yma hefyd. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r fframwaith polisi amaethyddol newydd edrych o ddifri ar y dirwedd reoleiddio bresennol ar gyfer ffermwyr a sefydlu gwell ffyrdd o gefnogi ffermwyr. Mae NFU Cymru yn dweud wrthym ni fod rheoliadau gwael yn aml yn rheswm dros ddiffyg hyder yn y diwydiant, a bod mwy o reoliadau yn ychwanegu’n sylweddol at lwythi gwaith ffermwyr. Wel, rydym ni nawr yn cael y cyfle i ailfampio’r dirwedd hon, a sicrhau bod mwy o ddulliau gwirfoddol yn cael eu mabwysiadu, a phan fydd rheoliadau yn cael eu cyflwyno, eu bod nhw’n cael eu cyflwyno o ganlyniad i dystiolaeth gadarn.

Wrth gwrs, mae’n rhaid i amaethyddiaeth Prydain a Chymru fod ar flaen y gad mewn unrhyw drafodaethau Brexit, ac mae’n rhaid i Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig fwrw ymlaen i sicrhau cytundebau masnach er mwyn i ddiwydiannau allforio, fel ffermio a’r diwydiant bwyd a diod, barhau i wneud busnes gyda marchnadoedd Ewropeaidd. Mae ffermwyr ledled Cymru yn iawn i fod yn bryderus ynglŷn â thermau mynediad mewnforio i’r farchnad yma yn y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac mae’n hanfodol ein bod ni ddim yn gadael cynnyrch rhatach gyda safonau is i fewn i Gymru a’r Deyrnas Unedig o fannau eraill. Mae’n hanfodol felly fod unrhyw gytundebau masnach yn cael eu trafod yn ofalus, gyda’n diwydiant amaethyddol ar y blaen o unrhyw drafodaethau.

Wrth gwrs, mae angen i ni sefydlu cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd sy’n cwrdd ag anghenion ffermwyr Cymru, ac mae’n rhaid i’r cytundeb hwnnw fod yn barod o’r funud gyntaf i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai colli unrhyw fynediad i farchnadoedd allforio yr Undeb Ewropeaidd yn drychinebus i ffermwyr Cymru, ac felly rydw i’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ar unwaith yn dechrau gweithio i sicrhau cytundeb sydd nid yn unig yn diogelu ein ffermwyr o fewnforio yn rhatach, ond yn sicrhau y gall ffermwyr Cymru barhau i ddibynnu ar y marchnadoedd allforio Undeb Ewropeaidd presennol yn y dyfodol.

Wrth gwrs, nid yw cynaliadwyedd ffermio yng Nghymru yn nwylo Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig yn unig. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â rôl bwysig iawn i’w chwarae i warchod ffermwyr Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gryfhau’r diwydiant amaeth yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu mynd i’r afael â rhai o’r materion hirsefydlog y mae ffermwyr Cymru yn eu hwynebu fel bod dim unrhyw fygythiadau i’n trafodaethau masnach. Er enghraifft, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn iawn i dynnu sylw at y mater o TB mewn gwartheg a’i gwneud hi’n gwbl glir, oni bai bod camau brys a rhagweithiol yn cael eu cymryd i reoli ffynhonnell yr haint mewn gwartheg a bywyd gwyllt, gallai fod yna risg i drafodaethau ac unrhyw ddêl fasnachol yn y dyfodol. Mae’r rhain yn faterion sydd bellach angen i Lywodraeth Cymru fynd ati i fynd i’r afael â nhw, ac wrth i’r trafodaethau ddatblygu, fel bod ymdrechion i gael y ddêl orau bosibl ar gyfer y diwydiannau cig coch a llaeth Cymru ddim yn cael eu rhoi mewn perygl.

Felly, i gloi, Llywydd, rydw i am ailadrodd unwaith eto pa mor bwysig yw hi i ddiogelu cynaliadwyedd y diwydiant ffermio yng Nghymru yn y tymor hir, oherwydd mae ein hunaniaeth ddiwylliannol, yr iaith Gymraeg, a dyfodol ein hardaloedd gwledig yn dibynnu ar hynny. Diolch.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:47, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth wrando ar Blaid Cymru, byddech yn meddwl y byddai’r dyfodol yn gwbl ddiogel am byth bythoedd drwy aros yn yr UE, ond y tu hwnt i’r fframwaith amlflwydd cyfredol gwyddom nad oes sicrwydd o gyllid amaethyddol i Gymru yn y gyllideb Ewropeaidd. Pan ddaethom yn aelodau gyntaf o’r hyn a oedd ar y pryd yn Gymuned Economaidd Ewropeaidd oddeutu 40 mlynedd yn ôl, rwy’n cofio mai amaethyddiaeth oedd i gyfrif am 65, 70 y cant o gyllideb yr UE; mae bellach i lawr i 42 y cant. Felly, dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld gostyngiad dramatig mewn cymorth amaethyddol ledled yr UE, a byddai’r ffigur hyd yn oed yn is pe na bai gwledydd yn nwyrain Ewrop wedi ymuno yn ôl ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon. Felly, mae’r syniad ei bod yn well aros yn yr UE lle mai biwrocratiaid anetholedig—na allwn hyd yn oed eu henwi, heb sôn am ddylanwadu arnynt yn y blwch pleidleisio—yw’r bobl y gallwch ddibynnu arnynt, yn hytrach na’r bobl sy’n eistedd yn y rhes o’n blaenau yn y Siambr hon, pobl y gallwch eu dewis ac yna’u gwrthod os nad ydych yn hoffi eu penderfyniadau, yn nonsens llwyr. 

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Fe sonioch am y 65 y cant yn gostwng i 42 y cant. A dderbyniwch fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu y bydd y ffigur hwnnw o’r Undeb Ewropeaidd yn sero yn y dyfodol ac fel y mae, fod yr arian a ddaw gan Lywodraeth y DU, neu’r addewid ohono, hefyd yn sero? Felly, dyna beth rydym yn negodi yn ei gylch i ffermwyr Cymru.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Wel, yn amlwg, mae hwnnw’n osodiad hurt, gan fod y Prif Weinidog eisoes wedi dweud y bydd y trefniadau ariannu presennol yn cael eu cadw hyd at ddiwedd 2022, ac ni all yr un Llywodraeth rwymo ei holynwyr, a chan fod yn rhaid cael etholiad cyffredinol erbyn 2022, byddai unrhyw addewid a roddir yn awr yn ddiwerth, ac felly nid yw’n werth ei wneud. Ond ein harian ni yw’r cyfan beth bynnag, yr arian y mae’r UE yn ei wario yma yng Nghymru, a’n cyfraniad gros i’r UE eleni yw £13.6 biliwn. Mae’r UE wedyn yn gwario ein harian yn y DU mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys ar amaethyddiaeth, tua £4.3 biliwn ohono. Felly, mae gennym gyfraniad net o £9.3 biliwn: rydym yn talu £3 i gael £1 yn ôl. A chan mai amaethyddiaeth sydd i gyfrif am 42 y cant o’r £9.3 biliwn, gwerir £4 biliwn o arian trethdalwyr y DU ar amaethyddiaeth yn yr UE. Mae hynny’n golygu, yng Nghymru, fod trethdalwyr Cymru, ar sail y pen, yn gwario £200 miliwn y flwyddyn, nid ar gymorthdaliadau i ffermwyr Cymru, ond ar gymorthdaliadau i ffermwyr y cyfandir. Nid yw hwnnw’n gytundeb gwych ar gyfer y gymuned ffermio yng Nghymru.

Rhun ap Iorwerth a gododd—

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:49, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n credu fy mod wedi cymryd un cyfraniad. Pedair munud yn unig sydd gennym i siarad, felly, yn anffodus, er y byddwn yn hoffi ildio, nid wyf yn meddwl y gallaf. 

Yn amlwg, rwy’n derbyn pwynt 3 o gynnig Plaid Cymru. Credaf yn gryf y dylai Llywodraeth y DU addo cynnal pob ceiniog o’r hyn y mae Brwsel ar hyn o bryd yn ei wario yng Nghymru, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un sydd â buddiannau’r Gymru wledig yn agos at eu calonnau yn anghytuno â hynny. Ac wrth gwrs, pwy sydd eisiau cytundeb masnach anghyfrifol gydag unrhyw un—fel ym mhwynt 2 y cynnig hwn? Wrth gwrs, rydym am negodi’r cytundeb gorau posibl, nid yn unig gyda’r UE, ond hefyd y gwledydd eraill o amgylch y byd—150, 160 o wledydd, faint bynnag y bydd—sy’n ffurfio 85 y cant o’r economi fyd-eang. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn i ni, wrth gwrs, gan mai hwy yw ein cymdogion daearyddol agosaf. Ac fel y nododd Simon Thomas yn gywir yn ei araith agoriadol, mae gennym raddau sylweddol iawn o fasnach rhyngom sydd o fudd i’r ddwy ochr, wrth gwrs, ond gadewch i ni beidio ag anghofio—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, ni allaf ildio fwy nag unwaith yn y cyfnod byr sydd gennyf, gan ei bod yn bwysig iawn fy mod yn gwneud fy mhwyntiau yn hytrach na chaniatáu i Aelodau eraill wneud eu rhai hwy yn ystod fy araith.

Ym mhob sector unigol o fasnach mewn cig, mae’r Deyrnas Unedig mewn diffyg, a diffyg sylweddol iawn mewn rhai achosion. Felly, ceir posibilrwydd enfawr—os yw’r UE mor ffôl fel nad ydynt yn awyddus i ddod i gytundeb masnach rydd â’r Deyrnas Unedig, mae’n fwy na thebyg y byddwn yn gallu amnewid yr hyn sy’n cael ei fewnforio ar hyn o bryd am gynnyrch a gynhyrchir gartref. Gadewch inni edrych ar y ffigurau: mewn cig eidion a chig llo, rydym yn mewnforio gwerth £700 miliwn o gig y flwyddyn, nid ydym ond yn allforio gwerth £150 miliwn; yn achos porc, rydym yn mewnforio gwerth £780 miliwn—mae’n ddrwg gennyf, ffigurau ar gyfer 2007 yw’r rhain. Mae’n ddrwg gennyf, fe ddechreuaf eto. Ar gyfer cig eidion a chig llo, eleni ceir gwerth dros £1 biliwn o fewnforion cig eidion, ac rydym yn allforio gwerth £369 miliwn. Ar gyfer porc, rydym yn mewnforio gwerth £778 miliwn o gig; gwerth £252 miliwn yn unig a allforiwn. Ar gyfer cig oen, dyma’r unig—cig oen a chig dafad yw’r unig sector lle y ceir cydbwysedd bras. Ac wrth gwrs, gyda chig oen, mae yna bosibilrwydd o broblem os nad awn i’r afael â hi, oherwydd, fel y nododd Simon Thomas yn gywir, daw cyfran sylweddol iawn o’n mewnforion o Seland Newydd.

Felly, wrth gwrs mae’n rhaid i ni wylio rhag problemau posibl a fydd yn deillio o ganlyniad i’r cynnwrf enfawr sy’n anochel mewn newid o’r math hwn. Cawsom y cynnwrf y ffordd arall oddeutu 40 mlynedd yn ôl, ac fe’i cofiaf yn dda iawn, pan symudasom oddi wrth gynllun taliadau diffyg i ffurf gwbl wahanol ar gymorth. Mae’r rhain yn broblemau ymarferol y gellir eu datrys.

Ond mae’r ffigurau, wrth gwrs, yn fach iawn. Dyma sy’n rhaid inni ei gofio. Eleni, mae Llywodraeth Prydain yn mynd i wario £800 miliwn. Nid yw cyfanswm gwerth y sector amaethyddol cyfan yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw yn £10 biliwn hyd yn oed. Felly, mae’r rhain yn ffigurau y gellir yn hawdd eu cynnwys yng nghyllideb y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid i ni frwydro dros Gymru, fel y dywedodd Simon Thomas yn gywir iawn, a dyna a wnawn, ond mae’r syniad fod Llywodraeth y DU yn mynd i dalu’r sylw lleiaf i lond llaw o Aelodau Plaid Cymru yn hurt. UKIP yn unig sydd wedi gallu troi’r Llywodraeth ar ei phen, oherwydd hebom, ni fyddai refferendwm wedi bod yn y lle cyntaf ac ni fyddem yn gadael yr UE yn awr.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:53, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n rhaid i bawb ohonom gydnabod bod hwn yn gyfnod ansicr i’r gymuned amaethyddol yng Nghymru. Hyd nes y bydd manylion llawn y cytundeb Brexit wedi’u cwblhau, bydd ffermwyr Cymru, a phob ffermwr y DU yn wir, yn ansicr ynglŷn â’r hyn a ddaw yn y dyfodol. Fodd bynnag, os yw Llywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniadau cywir, y gwir amdani yw y dylai ffermwyr Prydain fod yn llawer gwell eu byd nag yr oeddent o dan y polisi amaethyddol cyffredin. Mae hyd yn oed cipolwg brysiog ar yr hyn y mae’r PAC wedi’i wneud i ffermwyr Prydain a Chymru yn cadarnhau mai ychydig iawn a wnaeth i helpu cymuned ffermio Cymru mewn gwirionedd.

Yn wir, gellid dadlau mai’r cyfan y mae wedi’i gyflawni yw gwneud ffermwyr Cymru bron yn gyfan gwbl ddibynnol ar gymorthdaliadau ffermio o Ewrop sy’n lleihau fwyfwy. Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yng Nghymru yn perthyn i’r categori ffermydd bach. Mae canran uchel iawn ohonynt yn ffermwyr mynydd sydd bellach ymhlith y tlotaf yn Ewrop gyfan. Dywedir bod cyflogau cyfartalog oddeutu £12,000 y flwyddyn i lawer o’r ffermydd hyn—prin fod hynny’n gymeradwyaeth frwd i’r fformiwla PAC a ddefnyddiwyd ar gyfer ffermio ym Mhrydain dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae’r un fformiwla wedi golygu bod llawer o ffermwyr yn ne-ddwyrain Lloegr yn dod yn filiwnyddion oherwydd eu gallu i fanteisio ar ddeddfau cymhorthdal hurt ar gyfer ffermydd. [Torri ar draws.] Iawn, os gwelwch yn dda.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:55, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Onid yw’n wir, fodd bynnag, oni bai am y taliadau PAC hynny, y byddai ffermwyr sy’n cael trafferth i ymdopi wedi mynd allan o fusnes yn gyfan gwbl, gyda’r costau ofnadwy y byddai hynny’n eu creu iddynt ac ar gyfer y gymdeithas yng Nghymru?

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP

(Cyfieithwyd)

Wel, na. Mae’n rhaid i mi anghytuno â chi. Yr hyn y dylai’r diwydiant ffermio yng Nghymru ofyn i’w hun yw nid beth sy’n mynd i ddigwydd ar ôl Brexit, ond beth fyddai wedi digwydd pe na baem wedi cael Brexit. Rhaid i mi anghytuno â Rhun ap Iorwerth pan ddywed fod y polisi amaethyddol cyffredin wedi bod yn ffafriol i ffermwyr Cymru. Nid yw’r polisi amaethyddol cyffredin yn un statig. Mae derbyn rhai o wledydd tlotaf Ewrop wedi golygu bod llawer o’r ffermwyr yn y gwledydd hyn yn gymwys i gael cymorthdaliadau cyn ffermwyr Cymru, felly mae cymorthdaliadau fferm yn y DU wedi bod yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn ers amser hir iawn, ac o dan reolau Ewropeaidd, byddent yn parhau i ostwng. Rhaid i ni ofyn i ni ein hunain felly: o ble y daw’r arian i dalu’r cymorthdaliadau fferm hyn yn y lle cyntaf? Wel, yr ateb, wrth gwrs, yw o gyfraniad y DU i’r Undeb Ewropeaidd. Nid yw’n anodd dirnad o hyn, pe na bai’r DU yn darparu cymorthdaliadau ffermio ar draws Ewrop gyfan, y byddai swm llawer mwy o arian ar gael i’w fuddsoddi yn y diwydiant ffermio ym Mhrydain ac yng Nghymru. Yr her i ni yma yn y Cynulliad hwn yw gwneud yn siŵr fod Trysorlys y DU yn trosglwyddo’r graddau cywir o’r arbedion enfawr hyn i’r economi ffermio yng Nghymru.

Yn wahanol i lawer yn y Siambr hon, rwy’n ffyddiog y bydd cymuned ffermio weithgar, wych, effeithlon ac arloesol y DU a Chymru, o’i rhyddhau o fiwrocratiaeth ormodol a baich deddfwriaethol y polisi amaethyddol cyffredin, yn ffynnu mewn modd nas gwelwyd erioed o’r blaen. Yn wir, clywais un ffermwr yn dweud, o ystyried y ffordd yr oedd y rheoliadau’n mynd o dan y PAC—mae’n ddrwg gennyf, ni allwn orffen hwnnw—na fyddai wedi bod yn hir cyn y byddai wedi dod yn ofynnol iddo dagio’r llygod mawr ar ei fferm. Mae gennym ddyletswydd yn y Cynulliad hwn i ddiogelu ein diwydiant ffermio, felly dylem i gyd uno i wneud yn siŵr, nid yn unig nad yw ein ffermwyr yng Nghymru yn colli’r un geiniog goch o’r cymorthdaliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt cyn Brexit, ond eu bod hefyd yn rhannu cyfran o’r enillion ariannol enfawr a ddaw yn sgil rhyddhau’r DU o orfod rhoi cymorthdaliadau ffermio i 27 gwlad arall yr Undeb Ewropeaidd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:57, 7 Mehefin 2017

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:58, 7 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu cynnig Plaid Cymru yn fawr iawn, ac roeddem yn falch iawn ein bod wedi gallu cytuno ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ â Phlaid Cymru. Mae’n amlwg fod ein barn ar ddyfodol amaethyddiaeth a datblygu gwledig ar ôl Brexit yn debyg. Yn bwysicaf oll, rydym yn gwbl glir y dylai amaethyddiaeth a datblygu gwledig fod, a pharhau i fod wedi’u datganoli. Rydym wedi dweud yn glir iawn na fyddwn yn goddef unrhyw ymgais gan y Ceidwadwyr i amddifadu’r Cynulliad hwn o’i bwerau presennol, neu amddifadu Cymru o gyllid hefyd, a dyna pam ein bod yn llwyr wrthwynebu gwelliant 2 gan y grŵp Ceidwadol, sy’n adlewyrchu’n glir agenda Torïaid y DU o gymryd rheolaeth yn ôl, nid yn unig o Frwsel, ond o Gaerdydd hefyd, a Chaeredin a Belfast yn ogystal, mae’n debyg.

Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ein buddiannau gwledig ac amgylcheddol, ac yn archwilio pob cyfle i greu budd i’n sector ffermio, rheoli tir a bwyd wedi inni adael yr UE. Mae ein ffocws o hyd ar barhau i sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol i Gymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ffigur sy’n dangos bod 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru yn cynnwys taliadau Ewropeaidd. Fodd bynnag, dylid nodi bod incwm ffermydd yn amrywio—mae llawer yn negyddol—fodd bynnag, rydym yn cytuno y bydd y mwyafrif yn dibynnu ar arian y PAC i ryw raddau.

Yn dilyn y penderfyniad y byddai’r DU yn gadael yr UE, euthum ati ar fyrder i sefydlu grŵp o amgylch y bwrdd gyda rhanddeiliaid ar draws fy mhortffolio i drafod y goblygiadau sy’n deillio o bleidlais y refferendwm, ac mae gwaith y bwrdd wedi ychwanegu gwerth sylweddol, gan ei gwneud hi’n bosibl defnyddio dull traws-sectoraidd, sy’n ein galluogi i ystyried y materion mewn ffordd integredig, er enghraifft ar bob rhan o’r gadwyn gyflenwi. Mae’r undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill wedi bod yn werthfawrogol iawn o’r dull hwn. Ac mae’r broses wedi tanlinellu cryfder y cysylltiadau rhwng meysydd fel amaethyddiaeth, cymunedau, a’r amgylchedd ehangach. Mae hefyd yn gryfder gwirioneddol o ran mewnbwn a dylanwad posibl Cymru ar y broses i sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhanddeiliaid a’u cydweithrediad i sicrhau’r llwybr mwyaf buddiol posibl i Gymru. Mae gwaith y bwrdd yn ategu’r gwaith a wnawn ochr yn ochr â phob un o’r sectorau unigol i ystyried effeithiau manwl ymadawiad y DU â’r UE ar y sectorau. Ym mis Mawrth, ymrwymais y gyfran olaf o raglen datblygu gwledig 2014-20, cyfanswm o £223 miliwn, i wneud defnydd llawn o warant Trysorlys EM hyd at 2020. Ond mae angen clir am ymrwymiadau mwy hirdymor gan Lywodraeth y DU o hyd.

Mae’n hanfodol, ar ôl i ni adael yr UE, fod Llywodraeth y DU yn cadw ei haddewid yn ystod yr ymgyrch ‘gadael’ i ddarparu cyllid sydd o leiaf yn gyfwerth i Lywodraeth Cymru i gymryd lle’r hyn a dderbynnir ar hyn o bryd drwy’r PAC. Rwyf fi a’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn eu dwyn i gyfrif am hyn. Fodd bynnag, mae diffyg ymrwymiad o’r fath hyd yn hyn—a nododd Simon Thomas yn ei sylwadau agoriadol fod y Prif Weinidog, ddoe ddiwethaf, ar ymweliad â gogledd Cymru, heb roi’r ymrwymiad hwnnw pan oedd yn eistedd wrth fwrdd ffermwr, yn cael paned o de, sylwais. Mae’n ofid gwirioneddol ynglŷn â’r buddsoddiad hirdymor y gwyddom fod ei angen i ddiogelu dyfodol ein diwydiant ffermio fel bod ein ffermwyr, ein rheolwyr tir, ein busnesau gwledig a’n cymunedau gwledig yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Ochr yn ochr â’r cyllid, mae’n hanfodol ein bod ni yn y Cynulliad hwn yn parhau i arwain y gwaith o lunio polisi amaethyddol ar gyfer y dyfodol sydd wedi’i deilwra i anghenion penodol y diwydiant yng Nghymru. Pleidleisiodd mwyafrif yng Nghymru o blaid gadael yr UE, ac rydym wedi dweud yn glir fod yn rhaid parchu’r penderfyniad democrataidd hwn. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod neb yng Nghymru wedi pleidleisio dros fod yn waeth eu byd, i weld niwed yn cael ei wneud i’n heconomi neu ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus, ac rydym yn benderfynol o sicrhau dyfodol cadarnhaol i Gymru mewn byd ôl-Brexit.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd sut y caiff mewnforion bwyd eu heffeithio gan Brexit ac ni fydd hynny’n glir hyd nes y bydd y DU wedi bwrw rhagddi â thrafodaethau masnach â’r UE a gwledydd eraill. Rwyf wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud y byddai’n well peidio â chael cytundeb o gwbl na chael cytundeb gwael, ond a bod yn gwbl onest, mae hwnnw’n ddatganiad hurt, oherwydd mae’n rhaid cael cytundeb. Mae’r Torïaid i’w gweld yn blaenoriaethu cytundebau gyda gwledydd eraill dros gynnal ein mynediad at y farchnad sengl ac mae’n ymddangos eu bod yn barod i aberthu amaethyddiaeth er mwyn cael enillion cyflym gyda gwledydd fel UDA a Seland Newydd, sy’n awyddus iawn i gael mynediad at ein marchnadoedd.

I ni yn Llywodraeth Cymru, ar y llaw arall, un ystyriaeth allweddol yw na chodir prisiau is na chynhyrchwyr y DU am fewnforion gyda safonau cynhyrchu gwael ac nad oes perygl yn cael ei greu i ddefnyddwyr. Byddai’n rhaid i fewnforion gyrraedd safonau penodol a byddent yn destun archwiliadau. Bydd natur y rhain, wrth gwrs, yn dibynnu ar fanylion y cytundebau masnach hynny a threfniadau tollau, a dyna pam ei bod yn hanfodol fod gan y sefydliadau datganoledig ddealltwriaeth go iawn o’r trafodaethau masnach a dylanwad arnynt. O ystyried y goblygiadau i ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, mae’n hanfodol fod y gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae rhan lawn yn y trafodaethau, nid yn unig i sicrhau bod safbwynt negodi’r DU yn adlewyrchu cyd-destun y DU yn llawn, ond hefyd i gytuno ar y cyd y trefniadau a fydd ar waith ar sail y DU yn dilyn gadael yr UE, sy’n cynnwys cytundebau masnach.

Rydym yn derbyn y dylid cael fframweithiau cyffredin yn y DU mewn nifer o feysydd er mwyn gweithredu marchnad fewnol y DU yn effeithiol ar ôl Brexit ac i hwyluso masnach ryngwladol, ond unwaith eto, bydd angen cytuno ar y rhain ar y cyd ar draws y pedair gwlad, ac yn sicr ni fyddaf yn goddef gosod unrhyw fframweithiau o’r fath gan San Steffan a Whitehall. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:03, 7 Mehefin 2017

Galwaf ar Simon Thomas i ymateb i’r ddadl.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Wel, mewn etholiad a gafodd ei alw i benderfynu Brexit, nid ydym wedi cael unrhyw oleuni o gwbl ynglŷn â pha fath o gytundeb masnach y bydd ffermwyr Cymru yn ei gael o hyn. Ni allaf dderbyn bod Theresa May wedi dweud unrhyw beth perthnasol am ffermio yng Nghymru. Y peth mwyaf cofiadwy a ddywedodd am ffermio yw ei bod yn arfer sathru’r gwenith, fel rhyw fath o ‘Thatcher in the rye’, a chawn ein gadael gyda’r—. Chwarae ofnadwy ar eiriau, rwy’n gwybod. Cawn ein gadael gyda’r hyn a ddywedodd mewn gwirionedd pan ddaeth i Gymru. Beth a ddywedodd mewn gwirionedd? Dywedodd nad oedd unrhyw sicrwydd o gymorth i ffermwyr ar ôl 2020. Dyna ddyfyniad uniongyrchol o’i hymweliad â Chymru ddoe ddiwethaf. Daeth Tim Farron i ganolbarth Cymru, ac am beth y siaradodd? Siaradodd am bolisi gofal cymdeithasol yn Lloegr—dim byd i ffermwyr Cymru.

Rwy’n ddiolchgar fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ailadrodd ymrwymiad ei Llywodraeth i’r Papur Gwyn rhyngom ni, Plaid Cymru, a gadewch i ni gofio, y Democratiaid Rhyddfrydol yn ogystal, er eu bod yn honni nad ydynt yn rhan o hyn. Ond mae’n wir nad yw’r Blaid Lafur yn y DU chwaith wedi dweud dim am ba fath o gytundeb masnach a gawn. Ni ddywedodd Keir Starmer, yr un mwy synhwyrol, unrhyw beth o gwbl ynglŷn â’r hyn y dylai fod. Fel y nododd Paul Davies yn ddigon cywir, y ffaith amdani yw ein bod yn cael ein cynnal gan gronfeydd yr UE ar hyn o bryd. Pe bai hynny’n dod yn ddarostyngedig i fformiwla Barnett, byddem yn colli ein cymorth yma yng Nghymru i raddau sylweddol. Nid yw hynny ond yn tanlinellu, yn anffodus, sut roedd sylwadau David Rowlands yn deillio o anwybodaeth ac wedi’u hyngan heb daflu unrhyw oleuni yn y Siambr heddiw—[Torri ar draws.] Wel, na; nid oes gennyf amser. Mae fy amser ar ben yn barod, mae’n ddrwg gennyf, ond roeddwn yn meddwl eich bod wedi dangos nad ydych yn deall dim am amaethyddiaeth o gwbl.

Neil Hamilton—rydym wedi gwneud yr un araith ormod o weithiau yn yr un lle ar hyn o bryd, ond yr un peth a ddywedodd Neil Hamilton yn yr hustyngau nos Lun yn Llandeilo y credwn ei fod yn onest, ond nid wyf yn ei dderbyn, oedd mai ei safbwynt ef oedd y byddai’n derbyn cost am adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid wyf yn barod i wneud hynny, ac nid yw Plaid Cymru. Yfory, byddwn yn penderfynu beth fydd yn digwydd yn y DU yn gyffredinol. Beth bynnag fydd yn digwydd, byddwn wedi ethol un o’r Prif Weinidogion gwannaf a welsom ers yr ail ryfel byd, pwy bynnag sy’n ennill yr etholiad hwnnw, ac rwy’n credu ein bod yn wynebu trafodaethau anodd tu hwnt gyda’r UE.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:06, 7 Mehefin 2017

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.