Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 7 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr iawn am ildio. A wnaiff yr Aelod dderbyn nad oedd yna fygythiad, wrth gwrs, i gyllid i amaethwyr yng Nghymru pe baem ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd? Mae’r bleidlais wedi digwydd, wrth gwrs, ond hefyd, a wnaiff o dderbyn, p’un ai ydy o’n dair blynedd neu’n bedair blynedd, neu beth bynnag, o addewid ynglŷn â pharhau i gyllido, nid yw hynny’n ddigon i ffermwyr sydd eisiau gwneud penderfyniadau buddsoddi hirdymor ar gyfer datblygiad eu diwydiant?