Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 7 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu cynnig Plaid Cymru yn fawr iawn, ac roeddem yn falch iawn ein bod wedi gallu cytuno ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ â Phlaid Cymru. Mae’n amlwg fod ein barn ar ddyfodol amaethyddiaeth a datblygu gwledig ar ôl Brexit yn debyg. Yn bwysicaf oll, rydym yn gwbl glir y dylai amaethyddiaeth a datblygu gwledig fod, a pharhau i fod wedi’u datganoli. Rydym wedi dweud yn glir iawn na fyddwn yn goddef unrhyw ymgais gan y Ceidwadwyr i amddifadu’r Cynulliad hwn o’i bwerau presennol, neu amddifadu Cymru o gyllid hefyd, a dyna pam ein bod yn llwyr wrthwynebu gwelliant 2 gan y grŵp Ceidwadol, sy’n adlewyrchu’n glir agenda Torïaid y DU o gymryd rheolaeth yn ôl, nid yn unig o Frwsel, ond o Gaerdydd hefyd, a Chaeredin a Belfast yn ogystal, mae’n debyg.
Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ein buddiannau gwledig ac amgylcheddol, ac yn archwilio pob cyfle i greu budd i’n sector ffermio, rheoli tir a bwyd wedi inni adael yr UE. Mae ein ffocws o hyd ar barhau i sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol i Gymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ffigur sy’n dangos bod 80 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru yn cynnwys taliadau Ewropeaidd. Fodd bynnag, dylid nodi bod incwm ffermydd yn amrywio—mae llawer yn negyddol—fodd bynnag, rydym yn cytuno y bydd y mwyafrif yn dibynnu ar arian y PAC i ryw raddau.
Yn dilyn y penderfyniad y byddai’r DU yn gadael yr UE, euthum ati ar fyrder i sefydlu grŵp o amgylch y bwrdd gyda rhanddeiliaid ar draws fy mhortffolio i drafod y goblygiadau sy’n deillio o bleidlais y refferendwm, ac mae gwaith y bwrdd wedi ychwanegu gwerth sylweddol, gan ei gwneud hi’n bosibl defnyddio dull traws-sectoraidd, sy’n ein galluogi i ystyried y materion mewn ffordd integredig, er enghraifft ar bob rhan o’r gadwyn gyflenwi. Mae’r undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill wedi bod yn werthfawrogol iawn o’r dull hwn. Ac mae’r broses wedi tanlinellu cryfder y cysylltiadau rhwng meysydd fel amaethyddiaeth, cymunedau, a’r amgylchedd ehangach. Mae hefyd yn gryfder gwirioneddol o ran mewnbwn a dylanwad posibl Cymru ar y broses i sicrhau ymgysylltiad gweithredol rhanddeiliaid a’u cydweithrediad i sicrhau’r llwybr mwyaf buddiol posibl i Gymru. Mae gwaith y bwrdd yn ategu’r gwaith a wnawn ochr yn ochr â phob un o’r sectorau unigol i ystyried effeithiau manwl ymadawiad y DU â’r UE ar y sectorau. Ym mis Mawrth, ymrwymais y gyfran olaf o raglen datblygu gwledig 2014-20, cyfanswm o £223 miliwn, i wneud defnydd llawn o warant Trysorlys EM hyd at 2020. Ond mae angen clir am ymrwymiadau mwy hirdymor gan Lywodraeth y DU o hyd.
Mae’n hanfodol, ar ôl i ni adael yr UE, fod Llywodraeth y DU yn cadw ei haddewid yn ystod yr ymgyrch ‘gadael’ i ddarparu cyllid sydd o leiaf yn gyfwerth i Lywodraeth Cymru i gymryd lle’r hyn a dderbynnir ar hyn o bryd drwy’r PAC. Rwyf fi a’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn eu dwyn i gyfrif am hyn. Fodd bynnag, mae diffyg ymrwymiad o’r fath hyd yn hyn—a nododd Simon Thomas yn ei sylwadau agoriadol fod y Prif Weinidog, ddoe ddiwethaf, ar ymweliad â gogledd Cymru, heb roi’r ymrwymiad hwnnw pan oedd yn eistedd wrth fwrdd ffermwr, yn cael paned o de, sylwais. Mae’n ofid gwirioneddol ynglŷn â’r buddsoddiad hirdymor y gwyddom fod ei angen i ddiogelu dyfodol ein diwydiant ffermio fel bod ein ffermwyr, ein rheolwyr tir, ein busnesau gwledig a’n cymunedau gwledig yn cael y sicrwydd sydd ei angen arnynt i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Ochr yn ochr â’r cyllid, mae’n hanfodol ein bod ni yn y Cynulliad hwn yn parhau i arwain y gwaith o lunio polisi amaethyddol ar gyfer y dyfodol sydd wedi’i deilwra i anghenion penodol y diwydiant yng Nghymru. Pleidleisiodd mwyafrif yng Nghymru o blaid gadael yr UE, ac rydym wedi dweud yn glir fod yn rhaid parchu’r penderfyniad democrataidd hwn. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod neb yng Nghymru wedi pleidleisio dros fod yn waeth eu byd, i weld niwed yn cael ei wneud i’n heconomi neu ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus, ac rydym yn benderfynol o sicrhau dyfodol cadarnhaol i Gymru mewn byd ôl-Brexit.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd sut y caiff mewnforion bwyd eu heffeithio gan Brexit ac ni fydd hynny’n glir hyd nes y bydd y DU wedi bwrw rhagddi â thrafodaethau masnach â’r UE a gwledydd eraill. Rwyf wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud y byddai’n well peidio â chael cytundeb o gwbl na chael cytundeb gwael, ond a bod yn gwbl onest, mae hwnnw’n ddatganiad hurt, oherwydd mae’n rhaid cael cytundeb. Mae’r Torïaid i’w gweld yn blaenoriaethu cytundebau gyda gwledydd eraill dros gynnal ein mynediad at y farchnad sengl ac mae’n ymddangos eu bod yn barod i aberthu amaethyddiaeth er mwyn cael enillion cyflym gyda gwledydd fel UDA a Seland Newydd, sy’n awyddus iawn i gael mynediad at ein marchnadoedd.
I ni yn Llywodraeth Cymru, ar y llaw arall, un ystyriaeth allweddol yw na chodir prisiau is na chynhyrchwyr y DU am fewnforion gyda safonau cynhyrchu gwael ac nad oes perygl yn cael ei greu i ddefnyddwyr. Byddai’n rhaid i fewnforion gyrraedd safonau penodol a byddent yn destun archwiliadau. Bydd natur y rhain, wrth gwrs, yn dibynnu ar fanylion y cytundebau masnach hynny a threfniadau tollau, a dyna pam ei bod yn hanfodol fod gan y sefydliadau datganoledig ddealltwriaeth go iawn o’r trafodaethau masnach a dylanwad arnynt. O ystyried y goblygiadau i ffermwyr Cymru a chymunedau gwledig, mae’n hanfodol fod y gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae rhan lawn yn y trafodaethau, nid yn unig i sicrhau bod safbwynt negodi’r DU yn adlewyrchu cyd-destun y DU yn llawn, ond hefyd i gytuno ar y cyd y trefniadau a fydd ar waith ar sail y DU yn dilyn gadael yr UE, sy’n cynnwys cytundebau masnach.
Rydym yn derbyn y dylid cael fframweithiau cyffredin yn y DU mewn nifer o feysydd er mwyn gweithredu marchnad fewnol y DU yn effeithiol ar ôl Brexit ac i hwyluso masnach ryngwladol, ond unwaith eto, bydd angen cytuno ar y rhain ar y cyd ar draws y pedair gwlad, ac yn sicr ni fyddaf yn goddef gosod unrhyw fframweithiau o’r fath gan San Steffan a Whitehall. Diolch.