– Senedd Cymru am 4:41 pm ar 7 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r ddadl fer. Gadewch y Siambr yn gyflym ac yn dawel cyn i fi alw’r ddadl fer. Rwy’n galw felly ar Mike Hedges i gyflwyno’r ddadl.
Diolch i chi, Llywydd. Nid oedd neb eisiau munud yn y ddadl hon, ac nid yw hynny’n syndod, oherwydd credaf fod gan y rhan fwyaf o bobl bethau eraill ar eu meddyliau. Mae’n debyg fod hwn yn ddiwrnod gwael i gael y ddadl hon: nid yn unig mae’n noson cyn etholiad cyffredinol, ond rydym eisoes wedi cael un ddadl ar dai heddiw.
Ond rwy’n credu mai tai yw un o’r heriau mawr sy’n wynebu Prydain gyfan, gan gynnwys Cymru. Gellir rhannu’r cyfnod ar ôl y rhyfel yn ddau gyfnod mewn perthynas â thai: yn gyntaf, y cyfnod o 1945 i 1980. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelsom dwf aruthrol mewn tai cyngor ac adeiladu nifer fawr o stadau newydd, yn enwedig yn yr ardaloedd trefol mwy o faint. Hefyd, gwelsom dwf perchen-feddiannaeth a dechrau adeiladu ystadau preifat mawr, unwaith eto mewn ardaloedd trefol yn bennaf.
Mae’r maes tai wedi newid llawer yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf ac nid er gwell bob amser yn fy marn i. Gwelwyd cynnydd mawr mewn eiddo gwag; bu newid mewn deiliadaeth tai; cynnydd yn nifer yr aelwydydd un person; cynnydd yn nifer cartrefi pensiynwyr; a chynnydd yn nifer y bobl ifanc mewn tai amlfeddiannaeth, myfyrwyr yn bennaf, ond nid yn unig, gan fod niferoedd myfyrwyr wedi cynyddu’n sylweddol. Mae niferoedd tai cyngor wedi lleihau yn sgil gwerthiannau a’r methiant i adeiladu. Cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cymdeithasau tai. Bu dirywiad yn y sector rhentu preifat yn y 1960au a’r 1970au, lle roedd rhentu preifat, erbyn diwedd y 1970au, yn aml yn golygu llety myfyrwyr yn unig mewn gwirionedd. Mae hynny wedi cael ei wrthdroi. Gyda pherchnogion ar raddfa fawr a’r rhai sy’n defnyddio tŷ ychwanegol fel dewis arall yn lle pensiwn preifat, gwelwyd cynnydd enfawr mewn rhentu preifat, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt wedi bod yn gysylltiedig yn hanesyddol â llety rhent preifat. O ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau, mae’r galw wedi cynyddu am lety llai o faint.
Hoffwn ganolbwyntio ar dai cydweithredol. Gydag oedran cyfartalog prynwyr tro cyntaf yn 37 a’r disgwyl y bydd yn codi i 40, mae’n hollol amlwg fod angen newid y system dai gyfredol. Mae blaendaliadau mawr, yr anhawster i sicrhau morgeisi fforddiadwy gan fenthycwyr, a phrinder cyffredinol o dai o ansawdd da ymhlith y prif resymau a briodolwyd i’r ffaith fod oedran cyfartalog prynwyr tro cyntaf yn codi’n barhaus. I lawer o bobl, mae’r freuddwyd o brynu eu cartref cyntaf wedi’i gohirio am y tro, a’r unig opsiynau sydd ar ôl yw naill ai dychwelyd i fyw gyda’u rhieni neu rentu eiddo ar eu pen eu hunain neu gydag eraill am nifer o flynyddoedd, gyda’r nod o gynilo digon o arian ar gyfer blaendal, ac wrth i brisiau tai barhau i godi, daw hynny’n fwyfwy anodd oni bai bod banc mam a dad yn camu i’r adwy. Yn anffodus, i nifer fawr o fy etholwyr, nid oes ganddynt fanc mam a dad i droi ato. Er hynny, mae’r syniad o fod yn berchen ar gartref yn parhau i fod yn nod eithaf i’r mwyafrif helaeth o bobl.
Mewn adroddiad diweddar, cynhyrchodd Sefydliad Bevan y negeseuon allweddol canlynol: nid oes digon o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu i ddiwallu’r angen a ragwelir; ac mae perchen-feddiannaeth yn costio mwy na phedair gwaith yr enillion blynyddol ym mron pob rhan o Gymru, a mwy na chwe gwaith yr enillion blynyddol mewn sawl ardal. Rwy’n cofio prynu tŷ pâr tair ystafell wely yn Ynysforgan, sy’n lle hyfryd yn Nhreforys, am ddwywaith y cyflog. Roedd y morgais a gefais yn ddwywaith y cyflog roeddwn yn ei ennill fel darlithydd coleg. Byddai angen i mi gael pedair gwaith cyflog darlithydd coleg yn awr i brynu’r un tŷ. Mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i bobl fel oeddwn i: byddai darlithydd coleg wedi disgwyl i berchen-feddiannaeth fod yn hawdd, ac roedd yn hawdd yn y 1980au, pan ymunais i. Mae wedi symud yn gyflym o gyrraedd llawer ohonynt yn awr.
Mae rhenti cymdeithasol a phreifat yn mynd â mwy na chwarter enillion y gweithwyr sy’n ennill leiaf yn y rhan fwyaf o Gymru. O dan ddyletswyddau’r Ddeddf Tai (Cymru) 2014 newydd, mae oddeutu 29 o deuluoedd y dydd yn ddigartref ac yn chwilio am gymorth i sicrhau llety gan eu hawdurdod lleol. Mae’r pwysau ar ei waethaf yn Sir Benfro a Cheredigion, lle mae pob math o ddeiliadaeth yn fwy anfforddiadwy nag yn unman arall yng Nghymru, mae niferoedd y tai newydd a gwblheir yn gymharol isel a digartrefedd yn uwch na’r cyfartaledd.
At ei gilydd, mae pobl yn fodlon â’u llety, ond mae’r rhai sy’n byw mewn tai cymdeithasol ac ar aelwydydd difreintiedig yn llawer llai bodlon nag eraill. Y tu ôl i bob darn o ddata mae yna unigolyn neu deulu. Rwy’n credu ein bod yn siarad am dai—rydym yn siarad am lawer o bethau—yn haniaethol, fel pe na bai’n effeithio ar bobl. Mae hyn yn ymwneud yn llwyr â phobl. Rwyf wedi ymweld â phobl yn byw mewn tai lle y gallwch deimlo’r gwynt yn dod i mewn lle nad yw’r ffenestr yn ffitio’n iawn; rwyf wedi ymweld â phobl sy’n mynd i’r gwely am 7 o’r gloch, am nad ydynt yn gallu fforddio cynhesu eu tai. Mae’r rhain yn bobl y mae eu costau gwresogi yn debygol o fod yn fwy sylweddol na’ch costau chi, Dirprwy Lywydd—neu Ddirprwy Lywydd dros dro—neu fy nghostau i, am fod gwresogi rhai o’r tai hyn yn hynod o ddrud, tai sydd â gwydr sengl, nad ydynt yn atal gwynt na’r tywydd. Mae’r bobl hyn yn talu llawer mwy na ni. Rwy’n credu bod hynny’n druenus ac yn rhywbeth y mae angen rhoi sylw iddo.
Mae’r DU wedi cael ei dominyddu’n draddodiadol gan ddau fath o fodel deiliadaeth tai: perchen-feddiannaeth gyda morgais, a thai sy’n cael eu rhentu, naill ai’n breifat neu gan landlord cymdeithasol. Mewn rhannau eraill o’r byd, fodd bynnag, ceir trydydd math o ddeiliadaeth ar dai, gyda chydweithrediaethau tai. Mewn gwirionedd, bydd unrhyw un sy’n gwylio rhaglenni comedi Americanaidd ac eraill yn aml yn eu clywed yn siarad am y ‘co-op’—nid siop i lawr y ffordd ydyw, ond cydweithrediaeth dai. Ac nid ar gyfer y tlawd y mae, ond ar gyfer pawb. Yn wir, mae rhai o’r cydweithrediaethau tai yn rhai o rannau mwyaf cefnog Efrog Newydd. O dan ddeiliadaeth tai cydweithredol, mae gan aelodau’r gydweithrediaeth bŵer cyfunol i reoli’r llety rhyngddynt. Mae hyn yn cynnwys cymryd cyfrifoldeb am ddyletswyddau fel trefnu gwaith atgyweirio, cynnal a chadw eiddo, a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r rhent. Gan fod y penderfyniadau yn cael eu gwneud gan yr aelodau, mae egwyddorion perchnogaeth gymunedol a democratiaeth yn cael eu gosod yn ganolog i’r model tai cydweithredol.
Mae sectorau tai cydweithredol cryf mewn gwledydd fel Sweden, Norwy, Canada, Awstria a Thwrci, yn ogystal ag Unol Daleithiau America. Yn Sweden, er enghraifft, mae dau sefydliad cydweithredol mawr yn darparu dros 750,000 o gartrefi—mae tua 18 y cant o boblogaeth gyfan y wlad yn byw mewn tai cydweithredol. Yng Nghanada, a ddechreuodd gydweithrediaethau tai yn y 1970au cynnar, mae dros 400,000 o bobl yn byw mewn cartrefi cydweithredol bellach. I roi’r ffigurau hyn mewn persbectif ar gyfer y wlad hon, mae mwy o gartrefi tai cydweithredol yn Vancouver nag yn y DU gyfan, gydag arbenigwyr tai’n amcangyfrif bod llai nag 1 y cant o bobl yn y DU yn byw mewn cydweithrediaeth dai. Mae creu atebion fforddiadwy, hirdymor ar gyfer y farchnad dai yn rhywbeth y gall tai cydweithredol ei wneud.
Cyhoeddwyd adroddiad gan y Llywodraeth Geidwadol yn 1995 o dan y teitl Tenants in Control: an evaluation of tenant-led housing management organisations ‘, a ddaeth i’r casgliad, er syndod i lawer, gan fy nghynnwys i, fod modelau tai cydweithredol nid yn unig yn gosteffeithiol, ond hefyd yn cynnig nifer o fanteision sylweddol i’w haelodau. Mae adroddiadau ac ymchwiliadau dilynol ers hynny i fodelau tai cydweithredol wedi atgyfnerthu canfyddiadau’r adroddiad gwreiddiol gan PricewaterhouseCoopers, yn ogystal â nodi manteision posibl eraill ar gyfer eu haelodau. Er enghraifft, mae bod yn rhan o gydweithrediaeth dai yn rhoi cyfle i aelodau ddefnyddio sgiliau sydd ganddynt yn barod neu i ddatblygu sgiliau newydd, yn rhoi cyfran i’r aelodau ac yn magu eu diddordeb yn lle maent yn byw, ac yn gallu helpu i leihau unrhyw ddibyniaeth a allai fod gan denantiaid ar landlordiaid neu’r wladwriaeth. Eu tŷ hwy ydyw, maent yn helpu i osod y rhenti ac maent yn bwysig iawn yn y broses o wneud y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt ac ar eraill.
O ran manteision cymdeithasol, gall cydweithrediaethau tai helpu i hyrwyddo cydlyniant ac integreiddio cymunedol yn ogystal â chwarae rhan yn lleihau fandaliaeth, oherwydd os ydych yn fandaleiddio mewn cydweithrediaeth dai, rydych yn costio arian i’ch teulu yn ogystal â’r bobl yn y tai rydych yn eu fandaleiddio. Mae hefyd yn taro ymddygiad gwrthgymdeithasol, oherwydd eich bod am i bobl aros, ac mae eu heiddo gwag yn effeithio ar eich teulu. Mewn rhai achosion, deilliodd gwasanaethau cymunedol eraill, megis gofal plant a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer yr aelodau, o fod yn rhan o gydweithrediaeth dai.
Ar ben hynny, mae cydweithrediaethau tai yn rhoi rheolaeth i denantiaid ar renti eiddo, gwasanaethau adeiladu a chontractwyr, ac ôl-ddyledion rhent hefyd. Rwy’n credu mai un o’r gwendidau sydd wedi bod mewn nifer o brydlesi, er enghraifft, yw pan orfodir pobl i gael pobl benodol i mewn i wneud eu gwaith atgyweirio, sy’n aml iawn yn gallu bod yn fwy costus nag y gallai fod pe baech yn gwneud y gwaith eich hun. Gellir ailfuddsoddi unrhyw arian dros ben a wneir gan y gydweithrediaeth dai yn yr eiddo wedyn, yn dibynnu ar ddymuniad yr aelodau. Mae modelau tai cydweithredol a chydfuddiannol yn cynnig ateb ymarferol, cynaliadwy i ni gyda’r potensial i newid yn sylweddol y ffordd yr edrychwn ac y meddyliwn am dai.
Gyda phwerau deddfu sylfaenol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae modd newid y gyfraith i sefydlu a hyrwyddo deiliadaeth tai cydweithredol ar wahân yn gyfreithiol bellach. Ni fyddwn yn bod yn deg â Llywodraeth Cymru pe na bawn yn dweud ei bod wedi gwneud cynnydd ym maes cydweithrediaethau tai yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a diolch i chi am yr ymrwymiad a ddangosoch tuag at hyn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym wedi dechrau eu datblygu yng Nghymru, ac mae gennym Gartrefi Cymoedd Merthyr hefyd sy’n ceisio troi’n gwmni cydweithredol. Ond rwy’n meddwl bod rhagor i’w wneud.
Rwyf wedi ymrwymo i’r model tai cydweithredol, ac mae tri pheth y bydd angen ei wneud er mwyn iddo fod yn llwyddiannus. Mae angen inni newid y gyfraith i wneud creu cwmnïau tai cydweithredol yn haws. Yn ail, mae angen i fenthycwyr fod yn argyhoeddedig o ddiogelwch eu benthyciad, a allai olygu bod angen i Lywodraeth Cymru ei danysgrifennu. Un peth sydd bob amser yn fy rhyfeddu: maent yn ddigon hapus i roi benthyg i gymdeithasau tai, sy’n cael eu ffurfio mewn ffordd arbennig, ond nid i gydweithrediaethau, sydd â mwy o gryfderau o ran cymorth yn eu sefydliadau yn ôl pob tebyg i sicrhau eu bod yn gallu bod yn ariannol hyfyw. Credaf mai dyna’r allwedd; rydym am iddynt fod yn ariannol hyfyw. Yn drydydd, mae angen rhoi cyhoeddusrwydd i hyn ac mae angen ysbrydoli pobl i’w creu ac i ymuno â hwy. Nid yw pobl yn meddwl am dai cydweithredol. Eu dewis cyntaf yw mynd ati i brynu tŷ, eu hail ddewis yw ceisio rhentu, naill ai o’r sector cyhoeddus neu’r sector preifat—nid yw cydweithrediaeth dai yn croesi meddwl llawer gormod o bobl. Mae angen iddo ddod yn opsiwn, ac rwy’n awyddus iawn iddo ddod yn opsiwn. Nid yw’n iawn i bawb—nid oes dim sy’n iawn i bawb, ac i bobl sy’n symudol mae yna fantais fawr mewn rhentu preifat wrth i chi symud o le i le, ac ar gyfer myfyrwyr yn sicr mae yna fanteision mewn rhentu’n breifat, gan na fyddech am fod yn berchen ar dŷ mewn ardal lle nad ydych yn mynd i fyw ynddi’n llawer hwy ar ôl i chi raddio. Felly, mae’n wirioneddol bwysig fod hyn gennym fel opsiwn ar gyfer pobl a fydd yn elwa ohono.
Nid oes yr un o’r problemau a grybwyllais yn anorchfygol, a chydag ewyllys wleidyddol gallwn ei gyflawni. Ond rwy’n awyddus iawn i helpu, unwaith eto, i hyrwyddo tai cydweithredol, oherwydd credaf ein bod angen mwy o dai, ac nid wyf yn credu y gallwn fforddio anwybyddu’r hyn sy’n cael ei weld yn draddodiadol yng ngweddill y byd fel un o’r tair elfen ar gyfer eu cynhyrchu. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd, felly diolch yn fawr iawn, ond yn anffodus mae’n dal i fod cynnydd pellach i’w wneud.
Diolch, Mike. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y dywedais yn gynharach mewn dadl heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i gefnogi cynnydd yn y cyflenwad tai. Fe fyddwch yn cydnabod ein bod yn defnyddio dull cynhwysfawr gyda’n cynnig tai, gan geisio mynd i’r afael â’r ystod eang o anghenion tai, a diolch i Mike Hedges am gyflwyno’r ddadl honno heddiw.
Siaradais yn gynharach am y buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud ar draws nifer o wahanol raglenni, a chredaf fod ehangder y cynnig yn werth ei ailadrodd. Mae’n cynnwys cynnyrch a rhaglenni a brofwyd, megis y grant tai cymdeithasol a’r grant cyllid tai, Cymorth i Brynu—Cymru, sy’n rhoi cyfle i fod yn berchen ar gartref, yn enwedig i brynwyr tro cyntaf, y cynnyrch newydd rhentu i brynu, sy’n galluogi rhai heb flaendal i brynu cartref, y byddwn yn ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a’r rhaglen dai arloesol—bydd hon yn edrych ar ffyrdd newydd o wneud pethau, o ran y mathau o gartrefi a adeiladwn a sut y byddwn yn eu hadeiladu—ariannu’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi, sy’n darparu arf arall i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phroblemau tai gwag, a chadarnhau ein bwriad i ddiogelu’r stoc tai cymdeithasol yn llawn rhag crebachu drwy roi diwedd ar yr hawl i brynu ac unwaith eto, annog cynghorau i adeiladu eto drwy adael y system cymhorthdal cyfrif refeniw tai yn ystod tymor olaf y Llywodraeth. Dyma rai yn unig o’r mentrau rydym yn eu cynnig i gynyddu’r cyflenwad.
Nid ydym yn adeiladu tai fel Llywodraeth Cymru, ond mae ein partneriaid yn gwneud hynny. Mae’n rhaid inni eu galluogi i wneud hynny, a dyna pam ein bod yn gweithio gyda’n partneriaid i roi nifer o drefniadau cydweithredol ar waith. Mae hyn yn cynnwys cytundeb tai gyda CLlLC a’r Cyngor Iechyd Cymuned, rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai, gan gynnwys cynrychiolaeth o fusnesau bach a chanolig, tir ar gyfer cynlluniau tai, y grŵp rhanddeiliaid tai cydweithredol, a’r grŵp strategaeth tai gwledig, i enwi ond ychydig.
Rwy’n rhannu eich brwdfrydedd ynglŷn â thai cydweithredol, Mike. Rwyf wedi ymweld â chynlluniau tai cydweithredol ac wedi gweld drosof fy hun y manteision y mae’r model yn eu cynnig i denantiaid. Ac rydych yn gywir, mae perchnogaeth ar gyfres o adnoddau mewn cynllun tai cydweithredol yn rhoi llawer mwy o hyder i bobl yn y gallu i wneud hynny. Rydym yn gwthio’n wirioneddol galed i roi’r hyder sydd ei angen arnynt i gymunedau, ac mae wedi bod yn anodd iawn. Rwyf fi, fel chithau, mewn penbleth ynglŷn â pham nad yw wedi ffynnu yng Nghymru fel y gwnaeth mewn gwledydd eraill. Rydym yn parhau i weithio’n galed i wneud hynny. Mae hanes cyfoethog i gydweithredu yng Nghymru, ond yn hanesyddol, fel y’i nodweddir ar raddfa fawr mewn rhannau eraill o Ewrop ac America. Rydym yn awyddus i newid hyn, a thrwy weithio gyda chi ac eraill sydd wedi ymrwymo i’r cynllun tai cydweithredol, gobeithiwn ennill rhywfaint o fomentwm.
Gall pobl gymryd rhan yn y gwaith o lywodraethu’r gydweithrediaeth, gan berchnogi’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau, a phenderfynu’n ddemocrataidd ar atebion, ac rwy’n disgwyl y bydd y cynllun peilot gydag £1.9 miliwn o gyllid cyfalaf yn helpu a chefnogi datblygiad tri chynllun cyweithredol yma yng Nghymru, gan ddarparu 87 o gartrefi newydd ar gyfer cymunedau. Rydym yn cydnabod y gwahanol sgiliau sydd eu hangen wrth ei gwneud yn ofynnol i ddatblygu cydweithrediaethau, ac rydym yn gweithio i ddarparu cyllid refeniw gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru i ddarparu cydweithrediaethau tai newydd gyda chymorth. Mae’r arbenigedd datblygu cymunedol hwn wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi grwpiau, a gwelais hynny, fel y soniais yn gynharach.
Dros y pum mlynedd diwethaf, rwy’n credu ein bod wedi adeiladu llwyfan i dai cydweithredol allu datblygu a thyfu, gan gynnwys deddfu i ganiatáu tenantiaethau sicr a byrddaliol sicr grantiau cydweithrediaethau tai cydfuddiannol, gan gryfhau eu gallu i ddatblygu cynlluniau tai. Hoffwn gael sgwrs bellach gyda Mike Hedges mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth y cred ef ei bod yn angenrheidiol i adeiladu’r cyfleoedd y mae’n eu nodi mewn cydweithrediaethau.
Ar draws y ddwy ddadl am dai heddiw, Llywydd, rwyf wedi egluro’r dull cynhwysfawr ac arloesol—ac wrth gwrs, er ein bod yn wahanol efallai o ran ein gwleidyddiaeth ar rai ochrau i’r Siambr, yr hyn yr ydym i gyd yn cytuno yn ei gylch yw bod angen inni gynyddu’r cyflenwad tai ledled Cymru ac ar draws y DU. Mae’n bwysig cofio am y gwerth ychwanegol y mae buddsoddi mewn tai yn ei ddarparu drwy greu swyddi newydd a chyfleoedd hyfforddi. Mae hefyd yn helpu i gadw busnesau lleol yn hyfyw, ac mae’r sector tai yng Nghymru eisoes wedi darparu manteision cymunedol sylweddol iawn i’n hymdrechion ar y cyd i wella’r ffordd yr ydym yn adeiladu cartrefi—
Wrth gwrs.
Rwy’n awyddus ar y cam hwn yn y prynhawn i helpu i ddatblygu consensws. Mae arnom angen ystod o fodelau. Rwy’n credu bod hynny’n bwysig tu hwnt. Dywedodd Mike Hedges y bydd llawer o bobl na fyddant yn gallu dod yn berchnogion tai yn y dyfodol y gellir ei ragweld, ac rwy’n credu bod modelau cydweithredol yn rhoi hynny—mae’n sefyllfa rhwng dwy stol braidd mewn nifer o ffyrdd, am eich bod yn gyfrifol am bennu polisi ac am gynnal yr eiddo ac yn y blaen. Un peth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw rhoi arian i glirio tir llwyd ar y sail y bydd y tir hwnnw wedyn yn cael ei ryddhau i bobl sydd eisiau ffurfio cydweithrediaethau ar gyfer y tai trefol dwysedd uwch y cyfeiriais atynt mewn dadl gynharach.
Wrth gwrs, ac roeddwn yn ddiofal mewn perthynas â hynny yn y ddadl a gawsom yn gynharach, gan nad ystyriais eich cyfraniad o safbwynt peidio â rhoi arian ar gyfer adfywio safleoedd tir llwyd. Rydym yn gwneud hynny mewn rhai achosion eisoes yng Nghymru, ac rydym wedi’i wneud gyda rhai—yn sicr mewn cyllid adfywio. Mae un y gallaf feddwl amdano yn Nhorfaen lle rydym wedi cynorthwyo’r gallu i gael mynediad at dir sy’n dir datblygu o’r radd flaenaf ac felly, nid yn unig adeiladu’r cartrefi ar y safle hwnnw—mewn gwirionedd, mae’n ymwneud weithiau â galluogi’n unig, ac rydym wedi cydnabod hynny o ran y dirwedd heriol sydd gennym yng Nghymru, oherwydd hen byllau glo ac ati, ac mae safleoedd tir llwyd yn rhywbeth rydym yn awyddus i’w harchwilio.
Rwy’n cydnabod bod llawer mwy i’w wneud, Llywydd, mewn perthynas â thai a’r anghenion ar draws Cymru, a byddaf yn parhau i weithio gyda’r holl bartneriaid i ddatblygu ffyrdd o gynyddu’r cyflenwad. Wrth wneud hyn, rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar adeiladu cartrefi ac adeiladu cymunedau llwyddiannus i ni yma yng Nghymru. Diolch yn fawr. Diolch.
Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben.