Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Mehefin 2017.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog, ond, mewn blynyddoedd a fu, pan anfonwyd disgyblion ysgol uwchradd ar leoliadau i gael profiad o’r byd gwaith, dyletswydd Gyrfa Cymru oedd sicrhau bod y cyflogwyr a'u gweithleoedd yn amgylcheddau addas, diogel, a bod gofynion cyfreithiol o ran yswiriant ac asesu risg wedi eu bodloni. Fodd bynnag, mae eich Llywodraeth chi wedi gorfodi Gyrfa Cymru i ddiddymu’r gwasanaeth hwn yn raddol oherwydd toriadau i’r gyllideb, gan gael gwared ar y cyfle i bobl fwynhau’r fantais o leoliadau profiad gwaith. A all y Prif Weinidog esbonio sut y bydd peidio â chynnal yr archwiliadau diogelwch hyn oherwydd toriadau i’r gyllideb yn hybu ac yn ehangu mynediad at leoliadau profiad gwaith yng Nghymru?