Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 13 Mehefin 2017.
Prif Weinidog, mae profiad gwaith yn hollbwysig i bobl ifanc, ac mae'r rheini ag anawsterau dysgu a chyflyrau niwrolegol eraill efallai, fel awtistiaeth, y byddwn yn eu trafod yfory, yn aml yn ei chael hi’n anodd mynd allan i'r gweithle. Nawr, ceir rhai ysgolion sy’n cynnal lleoliadau gwaith cymathedig, ac, i’r rheini, mae'n wych gan eu bod nhw mewn amgylchedd diogel a chyfarwydd. Ond mae angen i bobl eraill i fynd allan a chael y profiad hwnnw, gan ei fod yn eu helpu wrth symud ymlaen i fod yn oedolion. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog cyflogwyr i gyflogi pobl â’r cyflyrau a’r anawsterau dysgu hynny, fel y gallant gael y profiad hwnnw, fel y gallant symud ymlaen i fod yn oedolion a bod yn hyderus eu bod yn gallu mynd allan i’r gweithle?