Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 13 Mehefin 2017.
Diolch, Llywydd. Mae yna siom fawr wedi bod yn fy etholaeth i wrth i ddisgyblion blwyddyn 10 a 12 glywed nad ydyn nhw am gael mynd ar leoliadau profiad gwaith eleni. Rwy’n datgan diddordeb fel tad i un ferch ym mlwyddyn 10 ac un ferch ym mlwyddyn 12. Ond, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno efo’r datganiad yma y mae swyddogion cyngor Ynys Môn yn sicr yn dweud sy’n wir, sef mai’r hyn sydd wrth wraidd y penderfyniad yma, y tu hwnt i unrhyw amheuaeth, ydy penderfyniad Llywodraeth Cymru i dynnu cyllid ac, felly, capasiti oddi ar Gyrfa Cymru i wirio lleoliadau, fel maen nhw wedi’i wneud yn y gorffennol?