Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 13 Mehefin 2017.
Prif Weinidog, y ffordd orau o wella mynediad at leoliadau profiad gwaith i ddisgyblion Cymru yw gwella cysylltiadau rhwng ein hysgolion a diwydiant. Er bod llawer o enghreifftiau da ar draws y wlad, nid yw'n ddigon. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cynnal cysylltiadau agos gyda busnesau lleol?