Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 13 Mehefin 2017.
Prif Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru raglen Cyfuno arloesol sy'n cyfrannu at lawer o nodau Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Nod y rhaglen Cyfuno yw annog a grymuso pobl ifanc i gymryd rhan weithredol yn y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth, ac yn yr un modd mae’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith arloesol. Hefyd, mae'r rhaglen Cyfuno yn 2017 yn cynnwys blaenoriaethau cyflogaeth a sgiliau. Prif Weinidog, onid yw hyn yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth Cymru yn annog blas deinamig ar y byd gwaith o bob rhan o fywyd Cymru i blant ysgolion Cymru, a sut wedyn all Llywodraeth Cymru adeiladu ar yr arfer gorau rhagorol hwn?