Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 13 Mehefin 2017.
Wel, rwy’n deall y bydd Powys yn lansio cyfleuster newydd Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn Llanfyllin ddydd Gwener. Gwnaed hynny’n bosibl trwy gyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru—enghraifft o’r cyllid hwnnw’n cael ei roi ar gael i Bowys. Mae dau gynllun cronfa trafnidiaeth leol Powys ar frig ein rhestr wrth gefn ar gyfer 2017-18, yn rhan o'n gwaith ehangach sy'n gysylltiedig â ffordd osgoi'r Drenewydd, ac rydym ni’n ystyried dewisiadau i weld sut y gallem ni ddyrannu rhywfaint o gyllid yn ystod y flwyddyn i gais teithio llesol Powys ar gyfer y Drenewydd.