Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 13 Mehefin 2017.
Ni ddylai'r Aelod gael yr argraff bod cynllun i uno Sir Drefaldwyn â Sir Gaerfyrddin—ar hyn o bryd. Mae’r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig, ac mae wedi bod yn gyson yn ei farn ei bod yn hollbwysig i hyrwyddo beicio fel mwy na dim ond hamdden—ei fod yn cael ei ystyried yn rhan annatod o'r system drafnidiaeth, os gallaf ei roi felly. Dyna y bwriadwyd i’r Ddeddf teithio llesol ei wneud, a dyna pam mae mor bwysig, pan fo cyllid ar gael, bod llwybrau beicio, er enghraifft, yn cael eu darparu, pan fo cynlluniau ffyrdd ar waith. Mae ffordd osgoi Pentre'r Eglwys yn enghraifft o hynny. Ac mae'n rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym ni’n ceisio ei hyrwyddo trwy gyllido, a hefyd drwy’r ddeddfwriaeth ei hun.