<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:40, 13 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Darllenais, wrth gwrs, Bapur Gwyn y Llywodraeth ar Brexit, nad yw, i bob pwrpas, o blaid rheolaethau ffin mewn unrhyw ystyr ystyrlon. Fy niddordeb yn hyn yw effaith llafur di-grefft a lled-fedrus yn cael ei fewnforio mewn niferoedd na ellir eu rheoli a'r effaith y mae hynny’n ei chael ar gyflogau’r dosbarth gweithiol. Nawr, mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi adroddiad sylweddol o’r enw ‘The impact of immigration on occupational wages: Evidence from Britain’, a ddaeth i’r casgliad bod cynnydd o 10 y cant i gyfran y mewnfudwyr yn gysylltiedig â gostyngiad o 2 y cant i gyflogau yn y sector gwasanaethau lled-fedrus a di-grefft. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall pam mae’r Blaid Lafur, o bob plaid, yn barod i ystyried y fath sefyllfa lle mae cyflogau dosbarth gweithiol yn cael eu gyrru i lawr sy’n golygu, i lawer o bobl, mai’r isafswm cyflog yw’r cyflog uchaf.