Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 13 Mehefin 2017.
Y bygythiad mwyaf i gyflogau pobl yw cyni cyllidol parhaus—dyna’r bygythiad mwyaf. Tybed a fyddai'n ei gwneud yn eglur beth oedd ei safbwynt ar yr isafswm cyflog, er enghraifft—pa un a wnaeth gefnogi ei gyflwyniad gan Lywodraeth Lafur, a pha un a yw’n cefnogi'r angen am fwy o bwyslais ar blismona’r isafswm cyflog, a pha un a fyddai'n gweld cynnydd i’r isafswm cyflog i lefel cyflog byw. Dyna’r ffyrdd o ddiogelu pobl. Ydy, mae'n bwysig amddiffyn pobl, ac nid dim ond ein pobl ein hunain, ond pobl o wledydd eraill, rhag cam-fanteisio, ac mae angen cyfrannu mwy o adnoddau i blismona hynny. Ond nid oes unrhyw amheuaeth mai’r bygythiad mwyaf i gyflogau yw Llywodraeth Dorïaidd sydd â’i bryd ar gyni cyllidol.