<p>Cenedl o Ddim Galw Diwahoddiad</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 13 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, fe wnaethom ni ddarparu cyllid yn 2013 i gynyddu nifer yr ardaloedd galw diwahoddiad yng Nghymru. Mae hynny wedi helpu i amddiffyn pobl agored i niwed rhag twyll. Gwn fod rhai awdurdodau lleol hefyd wedi gwneud y gwaith hwnnw. Cynhaliodd fy awdurdod lleol fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, ymgyrch lwyddiannus iawn ychydig flynyddoedd yn ôl yn hysbysu pobl am sut yr oedd sgamiau’n edrych—nid yn unig sgamiau drwy'r post ond sgamiau ar-lein hefyd. Gallant fod yn hynod gredadwy, o gofio’r ffaith y byddant yn aml yn defnyddio negeseuon e-bost sy'n edrych fel negeseuon e-bost gan gwmnïau sefydledig, er nad ydynt. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i weithio gyda'r heddlu a'r comisiynwyr heddlu a throseddu ar faterion yn cynnwys troseddau twyll.