Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 13 Mehefin 2017.
I bob un ohonom ni yn y Siambr hon, mae bob amser yn anodd gwybod a yw 'Dim galw diwahoddiad' yn golygu canfaswyr gwleidyddol hefyd. Er, rwyf wedi sylwi pobl yn rhoi 'Dim canfaswyr' yn ogystal â 'Dim galw diwahoddiad' ar eu drysau. Ond mae'n bwynt pwysig. Byddwn yn gwybod am bobl sydd wedi cael eu twyllo fel hyn, yn enwedig pobl hŷn sy'n teimlo'n arbennig o agored i niwed. Rydym ni’n gwybod bod ardaloedd dim galw diwahoddiad wedi eu sefydlu ym mwyafrif awdurdodau lleol Cymru i leihau nifer y galwyr diwahoddiad, ac rydym ni’n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i’w hannog i sefydlu mwy o ardaloedd yn y dyfodol.