<p>Cenedl o Ddim Galw Diwahoddiad</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:54, 13 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Yr anhawster cyntaf yw nad oes gennym ni bwerau gweithredol fel Llywodraeth i orfodi sefydlu’r ardaloedd. Mae gan y Cynulliad rywfaint o gymhwysedd deddfwriaethol, ond mae'n eithaf cyfyngedig ac wedi ei gyfyngu i amddiffyn defnyddwyr. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, bod gan awdurdodau lleol swyddogaeth arbennig o bwysig. Mae hi wedi crybwyll, wrth gwrs, ei hawdurdod lleol ei hun, ac rydym ni’n croesawu'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud. I’r 10 awdurdod lleol hynny nad ydyn nhw wedi manteisio ar y cyllid, mater iddyn nhw, wrth gwrs, yw esbonio, ac mae’n fater i’w godi gyda nhw o ran pam maen nhw’n teimlo nad yw ardaloedd dim galw diwahoddiad yn briodol i’w hardaloedd nhw.