Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 13 Mehefin 2017.
Mae cynnydd wedi ei wneud o ran bioreoli clymog Japan, gan gynnwys stociau psyllid o Japan. Ceir gwell cyfraddau goroesi i'r psyllids erbyn hyn, hefyd, ac mae hwnnw'n ddatblygiad allweddol wrth fynd i'r afael â chlymog. Mae rhyddhad pellach o psyllids wedi ei gynllunio yn ystod y flwyddyn hon.