Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 13 Mehefin 2017.
Prif Weinidog, amcangyfrifir bod tua £200 miliwn wedi ei wario yn y DU yn unig yn ceisio mynd i'r afael â chlymog Japan, sy'n achosi gwerth tua £170 miliwn o ddifrod i eiddo bob blwyddyn. Mae'r treialon psyllid yn addawol iawn, ond, os gall y pryfyn sefydlu ei hun yn llwyddiannus yn y DU, ni fydd ond yn dofi clymog, nid ei ddileu. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi Prifysgol Abertawe wrth chwilio am ffyrdd o sicrhau bod clymog yn cael ei ddileu ac nad yw’n bygwth eiddo ein hetholwyr mwyach?