Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 13 Mehefin 2017.
Ydy, mae’r cyfnod pontio hwnnw’n bwysig, ond rydym ni wedi sicrhau bod yr arian wedi ei roi ar gael ar gyfer partneriaid trydydd sector i sicrhau bod pobl â’r salwch meddwl mwyaf difrifol yn cael eu cynorthwyo i mewn i gyfleoedd cymdeithasol, addysg a chyflogaeth. Ond, wrth gwrs, o ran y cyllid CAMHS ychwanegol, yr hyn y mae hwnnw wedi ei gynllunio i’w wneud, wrth gwrs, yw gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar yr adeg y maen nhw ei angen, fel nad oes rhaid iddyn nhw ddibynnu— bydd rhai wrth gwrs, ond ni fydd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar wasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn y dyfodol.