Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 13 Mehefin 2017.
Mae hynny'n wir, a dyna pam rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol a chyda gweithredwyr bysiau a threnau i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch. Er enghraifft, yn rhan o'r gwaith ar gyfer metro de Cymru, bydd hygyrchedd trenau a gorsafoedd yn rhan bwysig o ddatblygiad y prosiect hwnnw.