Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 13 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw ac am gael golwg ymlaen llaw, yn wir, ar ddogfen fframwaith y polisi treth. Gallaf eich sicrhau y gwnaf geisio osgoi unrhyw sylwadau didrugaredd, neo-ryddfrydol—nid fy ffordd i fel arfer, ond mae'n debyg bod tro cyntaf i bopeth—ond, yn achos y ddogfen hon, roedd llawer yma y gallwn gytuno ag ef ac, wrth gwrs, sy’n gorfod digwydd gan fod trethi’n cael eu diffodd ar lefel y DU.
A gaf i hefyd ganmol Ysgrifennydd y Cabinet neu bwy bynnag a ddrafftiodd ragair y ddogfen hon? [Torri ar draws.] Efallai mai Ysgrifennydd y Cabinet a wnaeth. Mae’r agoriad yn deilwng o Shakespeare, rwy’n meddwl; mae'n darllen fel soned Shakespearaidd. Mae’n amlwg bod trethi datganoledig yn annwyl iawn i rywun, ac mae'n dda gwybod nad yw polisi cyllidol datganoledig bob amser mor sych ag y mae weithiau’n ymddangos bod yn rhaid iddo fod. Mae hwn yn darllen yn dda iawn, beth bynnag—y rhagair agoriadol.
Mae’r dyddiad Ebrill 2018 ar gyfer datganoli trethi a nodwyd gennych—ar gyfer y gyfran gychwynnol, beth bynnag—yn prysur agosáu, ac yn amlwg mae angen gwneud llawer o waith cyn hyn. Erbyn hyn, fel y dywedwch, mae dadl yn tyfu o amgylch defnyddio polisi treth i roi hwb i'r economi, ac rydym yn croesawu’r ddadl honno ac yn dymuno bod yn rhan ohoni. Rydym yn amlwg ar gromlin ddysgu serth ac mae angen inni ddatblygu'n gyflym, rwy’n meddwl y byddem oll yn cytuno, ein gallu o ran arbenigedd ariannol, yn enwedig ym maes rhagweld, nid dim ond yng ngwaith mecanyddol sefydliadau fel Awdurdod Cyllid Cymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r fframwaith polisi treth yn datgan dro ar ôl tro na ddylai fod unrhyw newid er mwyn newid—gwireb yr ydych chi wedi cadw ati fel eich rhagflaenydd, Jane Hutt, a bod trethi Cymru’n eistedd o fewn cyd-destun ehangach y DU. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn cytuno'n llwyr ag ef. Rwy'n meddwl ei bod yn dda ein bod yn dechrau gyda'r wireb honno.
O ran sut y mae’n eistedd o fewn cyd-destun ehangach y DU ac yn rhyngwladol, pa fecanweithiau sydd ar waith i sicrhau deialog agos â Llywodraeth y DU pan ddaw'n amser gwneud penderfyniadau am bolisi treth? Yn amlwg, ar ddechrau'r broses hon ac wrth sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, mae’n rhaid bod trafodaethau y DU gyfan wedi digwydd. Y tu hwnt i hynny, ein lle ni fydd pennu ein trethi datganoledig ein hunain, ond rwy’n meddwl ei bod yn ddefnyddiol ein bod yn gweld y rheini yng nghyd-destun ehangach y DU. Ac, yn amlwg, nid dim ond mater o sut mae polisi’r DU yn effeithio arnom ni yw hwn; bydd ein penderfyniadau polisi ni yma’n cael rhywfaint o effaith ar dreth yng ngweddill y DU hefyd, yn enwedig o ystyried y ffin hydraidd a nifer y bobl sy'n byw ger ffin Cymru yng Nghymru—50 y cant o'r boblogaeth o fewn 30 milltir.
Rwy'n falch eich bod yn anrhydeddu eich ymrwymiad i gyflwyno manylion am gyfraddau a bandiau. Rwy’n credu mai dyna oedd yr ymrwymiad a roesoch i'r Pwyllgor Cyllid, gyda llawer ohonom, gan fy nghynnwys i, ac rwy'n cofio Mark Reckless yn gwneud y pwynt y byddem wedi hoffi gweld y cyfraddau a’r bandiau ar wyneb y Bil ymlaen llaw. Gwnaethoch eich dadleuon dros beidio â gwneud hynny, ac rwy’n eich cofio’n dweud y byddech, fel cyfaddawd, yn cyflwyno manylion pellach am y cyfraddau ar adeg briodol. Felly, rwy'n falch o weld bod hynny wedi digwydd a byddwn yn edrych ar y rheini â diddordeb.
Mae'r fframwaith polisi’n cyfeirio at drethi newydd sawl gwaith. Ac, wrth gwrs, mae’r drefn ariannol newydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyflwyno trethi newydd. Rwy'n meddwl, pan gawsom y Senedd yng Nghasnewydd a phan ddaethoch i sesiwn dystiolaeth yno, rwy’n meddwl fy mod yn eich cofio’n dweud eich bod yn meddwl y byddai'n ddiddorol datblygu neu edrych ar ddatblygu rhai trethi newydd, neu un dreth newydd, rwy’n meddwl y dywedoch chi, fel arbrawf i weld sut y byddai'r broses yn gweithio, i roi prawf ar y broses honno. A ydych wedi meddwl mwy o gwbl am hynny, oherwydd, yn amlwg, os, ar y naill law—rwy’n bod yn sinigaidd am eiliad—rydych yn ystyried dal i gasglu’r trethi presennol fel treth stamp a thirlenwi, ac ati, a chadw’r rheini’n gymharol debyg i ble y maent ar hyn o bryd, os ydych yn cyflwyno treth newydd, mae hynny'n ffordd o gynyddu cyfanswm treth yn llechwraidd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a oedd gennych unrhyw syniadau pellach am ddatblygu trethi newydd.
A gaf i ofyn ichi am ddiwygio'r dreth gyngor, yr ydych yn sôn yn fyr amdano yn y ddogfen fframwaith? A yw hyn yn rhagflaenydd i symudiad neu i ddadl am y posibilrwydd o ddisodli hynny â threth gwerth tir? Bu llawer o drafod rhwng Aelodau'r Cynulliad a hefyd o fewn Cymru, y tu allan yn y byd academaidd, ynghylch rhinweddau cymharol treth gwerth tir. Rwy’n gwybod ei bod ar waith mewn rhannau eraill o'r byd. Yn amlwg mae treth gwerth tir—nid wyf am fynd i mewn i'r drafodaeth am y peth yn awr—o fudd i rai, ond, mewn ardaloedd gwledig, lle mae mwy o berchnogaeth tir, gallai hynny achosi problemau. Felly, rwy’n meddwl os ydym yn mynd i gyfeiriad edrych ar dreth gwerth tir, gorau po gyntaf inni gychwyn y drafodaeth honno er mwyn inni i gyd allu cyfrannu ati.
Ynglŷn â threth incwm yn gyffredinol, yn amlwg mae’n wahanol i'r ddwy dreth arall—a byddaf yn gorffen gyda hyn, Dirprwy Lywydd—oherwydd rwy’n credu bod y cyfrifoldeb am godi hon yn parhau i fod gyda Chyllid a Thollau EM; nid yw'n rhywbeth sy'n mynd i gael ei ddatganoli yma. Felly, sut ydych chi’n gweithio i gryfhau cysylltiadau â Chyllid a Thollau EM yn hyn o beth i wneud yn siŵr bod y broses hon yn rhedeg mor esmwyth â phosibl? Ond, diolch ichi am gyflwyno’r fframwaith hwn heddiw. Rwy'n edrych ymlaen at ei ddatblygiad gyda diddordeb.