Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 13 Mehefin 2017.
A gaf i groesawu'r datganiad yn fawr iawn, fel y mae pawb arall wedi ei wneud? Yn sicr, mae’r fframwaith, rwy’n meddwl, yn ddefnyddiol iawn. A gaf i ddweud, rwy’n cytuno'n llwyr mai trethi yw'r pris mynediad y mae pob un ohonom yn gorfod ei dalu i fyw mewn cymdeithas wâr? Trethi sy'n darparu'r gwasanaethau cyhoeddus allweddol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt. Ni allwn fyw mewn gwlad â gwasanaethau o fath Sgandinafaidd yn seiliedig ar gyfraddau treth Americanaidd, yn enwedig gan fod y dreth gorfforaeth ar gyfer cwmnïau rhyngwladol, yn y bôn, yn ddewisol, gan y gallant ddefnyddio cyfraddau trosglwyddo mewnol i symud arian ac elw o gwmpas y byd, fel y gallant wneud eu helw yn Ynysoedd Prydeinig y Wyryf ar arian a godwyd ym Mhrydain, oherwydd eu bod yn talu costau trosglwyddo mewnol ac yn talu costau hawliau eiddo deallusol. Mae hon yn broblem ddifrifol, ac er nad yw treth gorfforaeth yn debygol o gael ei datganoli yn y dyfodol agos, byddai'n well gen i weld treth ar drosiant, yn hytrach nag ar elw, gan fod y gallu i symud elw dramor neu i fannau â threthi isel neu ddim trethi’n cael effaith ddifrifol iawn ar y swm o arian sy’n dod i mewn, ac rydym yn gwybod bod y swm o arian sy’n dod i mewn o ran trethi busnes wedi gostwng fel cyfran o'r trethi a godir yn y wlad hon.
Er bod cyfraddau treth mewn rhai meysydd yn cael eu datganoli, wrth gwrs, allwch chi ddim ymdrin â nhw ar wahân, allwch chi, oherwydd pa bynnag gyfradd dreth osodwch chi ar unrhyw beth, mae rhywun yn mynd i ddweud—y bobl sy’n eistedd wrth fy ymyl neu’r bobl sy’n eistedd gyferbyn—maent yn talu llai i mewn, neu fwy i mewn; enwch y wlad neu’r lle cyfagos? Felly, rwy’n meddwl bod hynny ynddo ei hun yn creu cyfyngiadau. Ac rydym yn gwybod beth ddigwyddodd yn yr Alban, onid ydym? Mae gan yr Alban y pŵer i amrywio cyfraddau treth. Maent wedi eu hamrywio yn yr un ffordd yn union ag y mae’r Canghellor yn San Steffan wedi eu hamrywio. Symudodd y Canghellor yn San Steffan nhw i fyny, gwnaeth yr Alban eu symud nhw i fyny; symudodd y Canghellor yn San Steffan nhw i lawr, symudodd yr Alban nhw i lawr—yn gwbl gydamserol. Felly, mae gennych bwerau, ond weithiau mae pwerau’n bethau sy'n bodoli mewn theori, ond nad ydyn nhw’n bodoli o reidrwydd fel modd ymarferol o wneud pethau.
Mae gen i dri chwestiwn, a dweud y gwir. Y cyntaf yw: fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, doedd dim modd datganoli nifer mawr o drethi i Gymru oherwydd aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd a rheolau Ewrop. Un o'r pethau yr oedd yn ymddangos eu bod wedi’u cynnwys oedd un a oedd i fod i gael ei ddatganoli, ond nad yw, sef ardoll agregau. Pa drethi ychwanegol y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl y dylid ystyried eu datganoli, ar wahân i'r ardoll agregau—nid o reidrwydd i gael eu datganoli, ond i gael eu hystyried fel rhan o'r setliad datganoli?
Yr ail gwestiwn sydd gen i yw: ar ba gam y mae gennym gyllideb i Gymru sy'n cwmpasu refeniw a godir drwy gyfraddau treth yn ogystal â gwariant y mae’r Cynulliad wedi cytuno arno fel un gyllideb gyffredinol? A oes rhaid inni gyrraedd rhyw gam lle mae'n rhaid i hynny ddigwydd, fel y mae'n digwydd mewn Seneddau eraill lle maent yn codi eu holl arian, neu bron eu holl arian? Ar ba gam yr ydym mewn gwirionedd yn gwneud y ddau beth ar yr un pryd?
Ac a gaf i sôn am y dreth gyngor leol? Rwy'n meddwl y gallwn gael cytundeb â hyn. A gawn ni roi bandiau uchaf uwch yn y bandiau treth cyngor? Rwy’n meddwl bod y band uchaf yn cynnwys llawer gormod. Hoffwn weld culhau rhai o'r bandiau yn ogystal. Rwy’n meddwl bod y gyfran o werth ein heiddo, a delir gan rywun sydd â thŷ gwerth £30,000, yn hytrach na rhywun sy'n talu am dŷ gwerth £2 filiwn, yn llawer llai i’r unigolyn â’r tŷ £2 filiwn. Rwy'n meddwl bod hynny'n sylfaenol anghywir, ac mae gan system y dreth gyngor bobl mewn eiddo rhatach sy’n talu cyfran uwch o werth yr eiddo hwnnw mewn treth gyngor na phobl gyfoethog iawn. Felly, a wnewch chi ystyried cyflwyno rhagor o fandiau a cheisio codi—efallai nad yw hyn yn llawer iawn o eiddo? Hynny yw, efallai fod llawer llai na 1,000 o dai gwerth £1 filiwn yng Nghymru, ond does dim rheswm pam na ddylai’r bobl hynny dalu eu cyfran deg.