Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 13 Mehefin 2017.
Ond nid yw fy uchelgais ar gyfer dysgwyr yn dod i ben yn y fan yna. Rwyf eisiau i'n dysgwyr fynd ymhellach na dim ond defnyddio'r offer a’r seilwaith yr ydym wedi'i roi ar gael. Rwyf eisiau iddyn nhw symud o fod yn ddefnyddwyr technoleg i fod yn awduron creadigol. Mae gallu dysgwyr i ysgrifennu cod yn agwedd allweddol ar yr uchelgais honno ac yn llawer ehangach na dim ond y gallu i ddefnyddio technoleg. Mae'n ymwneud â datrys problemau, bod yn greadigol, a gwneud pethau mewn ffordd wahanol a difyr. Mae’r gallu i greu cod yn ymwneud â chymaint o feysydd pwnc a gyrfaoedd cyffrous, ac mae ganddo'r gallu i greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc ac athrawon. Yr wythnos nesaf, Dirprwy Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer sut yr ydym yn mynd i gefnogi ein dysgwyr ymhellach i ddatblygu sgiliau codio yn yr ystafell ddosbarth ac o’i chwmpas. Byddaf yn nodi yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan weithio gyda'r consortia addysg rhanbarthol, prifysgolion, busnesau, a'r trydydd sector i ehangu'r rhwydwaith o glybiau codio ym mhob rhan o Gymru. Bydd y dull gweithredu yn canolbwyntio ar gymorth ar gyfer athrawon, ymgysylltu agosach rhwng ysgolion a phartneriaid creadigol, a swyddogaeth gryfach o ran ymgysylltu â rhieni.
Hoffwn i orffen y diweddariad hwn drwy gyflawni un o argymhellion eraill Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer addysg yng Nghymru, a hynny yw bod yn well am ddathlu ein llwyddiannau. Disgrifiwyd ein dull yn ddiweddar gan Microsoft fel bod o ‘safon fyd-eang’, a dywedwyd ein bod ‘ar flaen y gad’ o ran ymgorffori cymhwysedd digidol ym mhob rhan o’r cwricwlwm. Yr wythnos nesaf, byddaf yn siarad â 350 o athrawon yn y digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol pryd y rhoddir gwobrau i barhau i ddathlu arferion gorau presennol yn ein hysgolion. Mae hon yn agenda uchelgeisiol, gyffrous, ac arloesol, sy’n golygu y gallwn fod yn falch bod Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer ein hathrawon ac ar gyfer ein dysgwyr.