Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 13 Mehefin 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac am gopi ymlaen llaw o'r datganiad, a ddosbarthwyd yn gynharach heddiw? Rwyf eisiau croesawu'r cyhoeddiad o’r £5 miliwn ychwanegol heddiw er mwyn gwella cyflymder band eang yn ein hysgolion. Rydym ni’n gwybod mai dim ond eleni—yn gynharach eleni—y mae rhai ysgolion wedi cael cysylltiad band eang o gwbl, mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod hyn yn gwbl annerbyniol. Mae’n amlwg bod angen i ni bellach wneud yn sicr ein bod ni’n gyfan gwbl ar flaen y gad o ran manteisio ar y cyfleoedd y mae mynediad at fand eang a band eang cyflym iawn yn ei ddarparu mewn gwirionedd. Yn sicr, mae fy mhlaid i yn cydnabod y pwysigrwydd o sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael eu paratoi yn ddigidol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a dyma un o'r rhesymau pam y gwnaethom gyflwyno dadl dim ond ychydig wythnosau yn ôl ar bethau fel diogelwch ar y rhyngrwyd—ac, wrth gwrs, mae pwysigrwydd codio yn rhywbeth yr ydym wedi ei godi yn y gorffennol, hefyd. Felly, rwy'n falch iawn bod peth cynnydd pwysig yn cael ei wneud ar y materion hynny, ac roeddwn yn arbennig o falch o’ch clywed chi’n cyfeirio at gael hidlyddion gwe priodol ar waith yn ein hysgolion hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir i ddathlu llwyddiant, ac rwyf innau hefyd eisiau llongyfarch Llywodraeth Cymru ar sefydlu Hwb, ac mae'n braf gweld bod hyn yn cael rhywfaint o sylw yn rhyngwladol. Yn anffodus, fel y gŵyr pob un ohonom, rydym wedi cael gormod o sylw rhyngwladol ar gyfer ein perfformiad difflach yn y blynyddoedd diweddar, felly mae'n wir yn braf bod yn arwain ar rywbeth, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni wir barhau i sôn amdano yn y dyfodol.
Rwy'n credu ei bod yn achos pryder nad yw chwarter ein hysgolion—un o bob pedair—yn defnyddio Hwb yn rheolaidd. Fe wnaethoch gyfeirio at y ffaith bod 75 y cant o'n hysgolion yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Mae hynny'n golygu bod gennym chwarter o hyd nad ydyn nhw’n gwneud defnydd o'r adnodd gwych sydd yno, ar gael iddyn nhw. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith yr ydych yn mynd i fod yn ei wneud i'w hannog i fanteisio ar hyn, oherwydd gwyddom fod llawer o ysgolion yn canfod eu bod yn cael profiad llawer cyfoethocach o ran y gallu i ddefnyddio'r adnoddau ar-lein hynny a dod â nhw a’u cyflwyno i'r ystafell ddosbarth.
A gaf i hefyd ofyn i chi—? O ran cyflymder uwch y band eang, wrth gwrs ei fod yn bwysig, ond hefyd mae’n bwysig bod gennym seilwaith TG sy’n gallu manteisio ar hynny. Rwyf wedi bod mewn cymaint o ysgolion sydd weithiau yn defnyddio offer eithaf hen a allai fod angen eu huwchraddio, ac roeddwn i’n meddwl tybed pa waith yr ydych chi’n bwriadu ei wneud gydag awdurdodau lleol i sicrhau y ceir buddsoddiad priodol mewn seilwaith TG yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau ei fod yn safonol a bod y gwasanaethau band eang cyflymder uwch yn mynd i fod yn werth chweil, mewn gwirionedd, wrth gael eu defnyddio ar rai o'r offer hŷn hynny. A wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw’r disgyblion hynny, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais yn ddigidol drwy beidio â chael cysylltiad band eang yn eu cartrefi eu hunain, yn colli’r ras yn y chwyldro digidol hwn sy’n digwydd yn ein hysgolion? Oherwydd, yn amlwg, os yw plentyn, os yw dysgwr, yn mynd adref ac nad yw’n gallu gwneud ei waith cartref ar-lein yn yr un modd â phlant eraill, neu i barhau i ddatblygu’r sgiliau hynny y maen nhw wedi bod yn eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth, yna rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni geisio cael strategaeth i oresgyn hynny, ac roeddwn i’n meddwl tybed beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd lwyddiannus a pha drafodaethau y gallai hi fod wedi'u cael gyda'r Gweinidog gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyflwyno Cyflymu Cymru? Nodaf fod yna ddatganiad ar gyflwyno Cyflymu Cymru y prynhawn yma.
Hefyd, a wnewch chi ddweud wrthym ni pryd yr ydych chi’n mynd i gyhoeddi cynllun gweithredu o ran y cynllun gweithredu diogelwch rhyngrwyd a gyfeiriwyd ato rai wythnosau yn ôl yn y Siambr, pryd y gwnaethoch chi gyhoeddiad pwysig eich bod yn mynd i ddatblygu hynny? Oherwydd, mae’n amlwg bod y pethau hyn yn mynd law yn llaw. Os ydym ni’n mynd i gael gwell mynediad at y rhyngrwyd, yna mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hynny’n gwbl ddiogel a bod unrhyw ganllawiau ar gyfer ei ddefnyddio yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r sefyllfa hon sy'n datblygu'n gyflym iawn, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc a allai fod yn agored i niwed wrth ddefnyddio systemau TG.
Ac, yn olaf, a allwch chi ein sicrhau y byddwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y datblygiadau hyn? Fel y dywedais, rwy’n credu ei fod yn gyffrous. Mae'n braf gwybod ein bod ni ar flaen y gad o ran y mater hwn, ac ein bod ni’n cael rhywfaint o glod rhyngwladol, ond mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwybodaeth ar gynnydd yn gyson ac yn rheolaidd, er mwyn i ni allu sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn y sefyllfa arweiniol honno, nid yn unig o fewn y DU, ond o gwmpas y byd. Diolch.